Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Dewis straeon ar gyfer addysg heddwch

Mae creu cwricwlwm heddwch gobeithiol yn gofyn am graffter gofalus wrth ddewis llyfrau ac adnoddau eraill i adrodd straeon a chefnogi addysg. Er enghraifft, mae llawer o lyfrau fel Coed Heddwch Wangari sy'n archwilio gwaith ymgyrchwyr amlwg. Gall llyfrau o’r fath fod yn fan cychwyn gwerthfawr i blant a phobl ifanc ddysgu am wneud safiad yn y byd.

Fodd bynnag, gall rhai bywgraffiadau adael plant a phobl ifanc gyda'r argraff bod ymgyrchwyr unigol yn newid y byd, heb roi sylw i'r ffyrdd mae mudiadau cyfan o bobl yn cyfrannu at newid cadarnhaol (Moriarty, 2021). Adolygodd Sinead Moriarty nifer o lyfrau am Greta Thunberg, a nododd:

Yn hytrach na chael ei hystyried yn un o nifer fawr o bobl ifanc sy’n ymgyrchu’n frwd dros yr amgylchedd, mae hi [Greta Thunberg] yn cael ei hystyried yn unigryw. Nid yw’r ffocws hwn ar natur unigryw Thunberg yn anghywir, ond mae’n tueddu i anwybyddu gwaith ymgyrchwyr ifanc eraill dros yr hinsawdd, yn enwedig ymgyrchwyr ifanc o liw, ymgyrchwyr brodorol, ac ymgyrchwyr o Dde’r Byd.

(Moriarty, 2021, t. 202)

Mae Moriarty yn dadlau bod angen i blant a phobl ifanc ymgysylltu â llyfrau sy’n dangos nid yn unig sylfaenwyr mudiadau, ond y mudiadau eu hunain a sut mae pobl yn y mudiadau hynny’n gweithio gyda’i gilydd dros newid. Gallai llenyddiaeth o'r fath helpu plant a phobl ifanc i ddod o hyd i'r cysylltiadau sydd ganddynt yn eu teuluoedd a'u cymunedau yn barod, ac archwilio ffyrdd o gydweithio i fynd i'r afael â materion sy'n peri pryder iddynt (Moriarty, 2021).