Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4 Gweithio yn y gymuned: Glasgow Girls

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 3Ffotograff o gynhyrchiad theatr Glasgow Girls

Un enghraifft o bobl ifanc yn ymgysylltu â’u cymuned yw ‘Glasgow Girls’, grŵp o fenywod ifanc o Ysgol Uwchradd Drumchapel yn Glasgow. Fel yr eglura Education Scotland, ymgyrchodd y menywod dros ryddhau eu ffrind Agnesa a’i theulu pan gawsant eu cadw gan y Swyddfa Gartref Brydeinig. Roedd gwaith y grŵp yn codi ymwybyddiaeth o driniaeth ceiswyr lloches (Education Scotland, 2018). Yn yr adran Dysgu pellach [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ar ddiwedd y sesiwn hon gallwch gael rhagor o wybodaeth am eu gweithgareddau a’r bobl a’r grwpiau y buont yn gweithio gyda nhw.