4.1 Dod o hyd i lyfrau addas
Mae sefydliadau sy’n argymell llyfrau y gellid eu defnyddio mewn addysg heddwch. Rhestrir rhai o'r rhain ar dudalen Adnoddau ac argymhellion [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] y cwrs hwn. Dylai addysgwyr sicrhau bod y llyfrau maent yn eu defnyddio yn cynrychioli amrywiaeth yn briodol yn y Deyrnas Unedig. Mae CLPE (English Centre for Literacy in Primary Education) yn cynhyrchu adroddiad rheolaidd, Reflecting Realities, sy’n edrych ar gynrychiolaeth ethnig yn llenyddiaeth plant y Deyrnas Unedig. Mae pob adroddiad yn cynnwys cyfres o gwestiynau i lywio ystyriaethau ar gyfer dewis llyfrau sy’n adlewyrchu amrywiaeth cymunedau’r Deyrnas Unedig.