6 Cydnerthedd a braint
Mae llawer iawn o drais – uniongyrchol, diwylliannol a strwythurol–yn seiliedig ar hunaniaeth. Gall datblygu cymwyseddau heddwch arfogi plant a phobl ifanc i fod yn weithredwyr dros eu hawliau eu hunain a hawliau pobl eraill. Mae gwefan ‘Facing History and Ourselves’ yn cofnodi sut cafodd y term 'upstander' ei gynnwys yng ngeiriaduron Rhydychen a Merriam-Webster (fersiynau Unol Daleithiau America) ar ôl ymgyrch gan ddau fyfyriwr o Ysgol Uwchradd yr Unol Daleithiau (FHAO, 2015). Dyma ddiffiniad y geiriadur o weithredwr (upstander): ‘A person who speaks or acts in support of a cause, esp. one who intervenes on behalf of a person being attacked or bullied’ (OED, 2024).
Mae’r cysyniad o fraint yn helpu pobl i ddeall y ffyrdd y gall rhai pobl gael mantais dros eraill oherwydd agwedd ar eu hunaniaeth, fel hil neu rywedd. Yn y llyfr Know Your Rights and Claim Them: A Guide for Youth esbonnir:
Mae bod yn ymwybodol o freintiau, beth bynnag ydynt, yn ein helpu i ddeall gwahaniaeth a pham nad yw rhai pobl yn mwynhau’r un cyfleoedd ag eraill. Mae’n ei gwneud yn haws adnabod a herio gwahaniaethu, sydd wrth wraidd llawer o achosion o gamddefnyddio hawliau ym mhob cwr o’r byd.
Mae hunaniaeth yn gymhleth ac yn amlochrog, ac mae braint yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd ar gyfer gwahanol agweddau ar hunaniaeth mewn gwahanol adegau a mannau. Gall dealltwriaeth feirniadol a gwybodus o'r ffyrdd mae braint yn gweithio mewn gwahanol gyd-destunau ategu cydnerthedd, gan alluogi pobl i gydnabod a gwrthsefyll anghydraddoldebau ac anghyfiawnderau a allai godi mewn bywyd bob dydd.