7 Rôl yr addysgwr
Un o ymrwymiadau addysg heddwch yw bod addysgwyr yn cael eu gwerthfawrogi yn y gymdeithas ehangach. Mae llesiant a datblygiad plant a phobl ifanc yn dibynnu ar addysgwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i greu mannau lle gall eu myfyrwyr a hwythau feddwl am faterion sydd weithiau’n anodd gyda’i gilydd. Yn y gweithgaredd nesaf byddwch yn archwilio sut mae diwylliant ehangach Ysgol Elizabeth Garrett Anderson yn chwarae rhan wrth helpu athrawon i greu mannau o'r fath.
Gweithgaredd 6 Archwilio pynciau heriol
Gwyliwch y fideo hwn, unwaith eto o Ysgol Elizabeth Garrett Anderson, lle mae'r Pennaeth Hanes, Hamidah Siddiqua, yn archwilio pwnc heriol hil-laddiad gyda'i myfyrwyr. Ar y pryd, roedd hil-laddiad grwpiau lleiafrifol Mwslimaidd yn Xinjiang yn bryder i lawer o fyfyrwyr.
Wrth i chi wylio, ystyriwch:
- Ym mha ffyrdd mae’r ysgol yn cynorthwyo athrawon sy’n addysgu pynciau heriol gyda’u myfyrwyr?
- Ym mha ffyrdd y gellir ystyried bod addysgu pynciau mor heriol â hyn yn rhywbeth gobeithiol?

Transcript: Fideo 5
Sylwad
Mae’r Pennaeth Hanes Hamidah Siddiqua yn siarad am y ffyrdd mae hi ac arweinwyr ysgolion eraill yn cynorthwyo staff drwy eu hannog i drafod pynciau sy’n peri pryder a dod yn ymwybodol o’r emosiynau a’r cwestiynau maent yn eu codi. Mae hyn yn helpu staff a myfyrwyr i deimlo eu bod yn cael eu clywed ac yn cael eu gweld, yn enwedig y rhai a allai fod wedi teimlo na wrandawyd yn ddigonol ar eu profiadau eu hunain yn y gorffennol.
Dewisodd Siddiqua ei hadnoddau’n ofalus a gwneud dynoliaeth pobl Uyghur yn glir i’r myfyrwyr. Mae gobaith yn amlwg yn ymatebion meddylgar y myfyrwyr i'r drafodaeth a'u pryder am y materion a godwyd. Yn ogystal â hyn, mae’r Pennaeth Sarah Beagley yn atgoffa’r myfyrwyr eu bod yn cael eu grymuso i weithio gyda’i gilydd i wneud rhywbeth am bethau mor ofnadwy sy’n digwydd yn y byd.