Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8 Addysgu materion dadleuol

Mae cyhoeddiad Oxfam, Teaching Controversial Issues, [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] yn cynnwys cyngor defnyddiol i athrawon sy’n gweithio gyda phobl ifanc ar yr hyn mae’r cyhoeddiad yn ei alw’n ‘faterion dadleuol’. Daw’r cyngor a ganlyn o’r cyhoeddiad hwn, ac fe’ch cynghorir yn gryf i ddarllen y ddogfen lawn fel rhan o’ch datblygiad fel addysgwr heddwch.

Gweithgaredd 7 Beth yw mater dadleuol?

Timing: Caniatewch tua 15 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Rhan A

Beth allai wneud mater yn un ‘dadleuol’? Nodwch eich barn yn y blwch isod a chymharwch eich ymateb â syniadau Oxfam.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

Mae cyhoeddiad Oxfam, Teaching Controversial Issues, yn cynnig y diffiniad a ganlyn. Sut mae eich syniadau’n cymharu?

  • Ysgogi teimladau a safbwyntiau cryf.
  • Effeithio ar y cyd-destun cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol mae pobl yn byw ynddo.
  • Delio â chwestiynau sy’n ymwneud â gwerth a chred, ac mae’n gallu rhannu barn rhwng unigolion, cymunedau a’r gymdeithas ehangach.
  • Maent fel arfer yn gymhleth, heb ‘atebion’ clir oherwydd maent yn faterion mae gan bobl farn gref arnynt yn aml ar sail eu profiadau, eu diddordebau, eu gwerthoedd a’u cyd-destun personol eu hunain.
  • Maent yn codi ar amrywiaeth o raddfeydd sy'n effeithio ar gymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang.
  • Maent yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau fel hawliau dynol, cyfiawnder rhywedd, mudo a newid yn yr hinsawdd.
  • Gall amrywio yn ôl lle ac amser, a gall fod yn hirsefydlog neu'n ddiweddar iawn. Er enghraifft, gall mater sy’n ddadleuol mewn un gymuned neu wlad gael ei dderbyn yn eang mewn un arall.

Rhan B

Yn awr, cymerwch funud i fyfyrio ar yr hyn rydych chi wedi ei ddarllen hyd yma yn y sesiwn hon.

Pam addysgu materion dadleuol?

Defnyddiwch y blwch isod i nodi eich ymatebion.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

Mae Oxfam yn awgrymu sawl rheswm dros ddysgu pynciau fel hawliau dynol, cyfiawnder rhywedd, mudo a newid yn yr hinsawdd. Rydych chi wedi gweld enghreifftiau o addysgu ar y pwnc hwn drwy gydol y cwrs hwn. Mae Teaching Controversial Issues yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi bod plant a phobl ifanc yn cael gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion sy’n effeithio ar eu bywydau, yn ogystal â dysgu gwrando ar syniadau pobl eraill a gwerthuso eu safbwyntiau eu hunain. Fe welsoch chi enghreifftiau o’r holl ddatblygu cymwyseddau hyn yn y fideos gan Ysgol Gynradd Oakgrove ac Ysgol Elizabeth Garrett Anderson. Fodd bynnag, mae’r cyhoeddiad yn pwysleisio pwysigrwydd cynnal trafodaethau o’r fath mewn man diogel. Fel y gwelsoch, mae gan yr addysgwr heddwch rôl hanfodol yn hyn.

Gallai’r hyn y gellid ei ystyried yn ‘ddadleuol’ fod yn wahanol rhwng lleoliadau addysgol. Mae’n bwysig bod yn sensitif i anghenion a llesiant holl aelodau cymuned yr ysgol, gan sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cynnal, hyd yn oed yn ystod wrth ddysgu am bethau sy’n heriol. Mae addysgu materion 'dadleuol' yn gofyn am ymchwil, meddwl a chynllunio gofalus. Os ydych chi yng nghamau cynnar eich datblygiad fel addysgwr heddwch, fe’ch cynghorir yn gryf i geisio rhagor o hyfforddiant ac arweiniad, fel yr hyn a gynigir gan y sefydliadau y cyfeirir atynt drwy gydol y cwrs hwn, yn ogystal â chymorth eich cydweithwyr.