Sesiwn 6: Eich taith fel addysgwr heddwch
Cyflwyniad
Mae un unigolyn bach, sy’n rhoi ei holl amser i heddwch, yn cyrraedd y penawdau newyddion. Gall llawer o bobl, wrth roi rhywfaint o’u hamser, greu hanes.
Gellir gweld pob aelod o gymuned yr ysgol fel addysgwr heddwch mewn rhyw ffordd, gan gynnwys y plant a’r bobl ifanc eu hunain. Yn y sesiwn olaf hon o'r cwrs byddwch yn ystyried oedolion fel addysgwyr heddwch. Ar gyfer hyn, mae’n bwysig meddwl yn ofalus am eich man cychwyn yn ogystal â’r cymorth rydych chi’n ei gael gan gydweithwyr a sefydliadau ehangach. Wrth i chi dyfu fel addysgwr heddwch, cymerwch bob cam ar y tro, gan ddathlu pob cyflawniad ar y ffordd.
Erbyn diwedd y sesiwn hon, fe ddylech chi allu:
- bod â mwy o ymwybyddiaeth ohonoch chi eich hun fel addysgwr heddwch a lle gallech chi ddatblygu ymhellach
- cael syniad o ble i ddechrau ar eich taith fel addysgwr heddwch neu ysgol heddwch
- cael syniad o bwy y gallech chi gysylltu â nhw, neu beth allech chi ei ddarllen i ategu’r datblygiad hwnnw.
Gwyliwch y fideo hwn lle mae Bethan yn cyflwyno sesiwn olaf y cwrs.
