1 Eich datblygiad fel addysgwr heddwch
Mae Cremin a Bevington yn pwysleisio pwysigrwydd gwerthfawrogi llesiant addysgwyr mewn cymdeithas ac mewn cymunedau addysgol. Maent yn ein hatgoffa bod angen i addysgwyr heddwch ofalu amdanynt eu hunain yn dda, gan gydnabod eu cyflawniadau a chofio bod ymarfer meithrin heddwch yn gofyn am ‘ofal, dynamiaeth a thosturi’ (Cremin a Bevington, 2017, t. 113). Drwy gydol y cwrs rydych chi wedi dod ar draws arferion proffesiynol addysgwyr heddwch. Yn yr adran hon byddwch yn defnyddio’r cymwyseddau heddwch i ddathlu eich arferion presennol a nodi meysydd lle gallech ddatblygu ymhellach fel addysgwr heddwch.
Gweithgaredd 1 Rhinweddau addysgwr heddwch
Gall bod yn addysgwr heddwch fod yn heriol, felly bydd angen i chi ddatblygu cymwyseddau sy'n eich helpu i ofalu am eich llesiant eich hun. Yn y gweithgaredd hwn, byddwch yn meddwl am y cymwyseddau y gallai fod eu hangen arnoch fel addysgwr heddwch.
Rhan 1
Dechreuwch drwy ddychwelyd at y cymwyseddau heddwch rydych chi wedi eu hastudio drwy gydol y cwrs hwn. Darllenwch drwyddynt eto, y tro hwn gyda chi fel addysgwr heddwch mewn golwg.
- Pa gymwyseddau sy’n arbennig o berthnasol i addysgwyr heddwch?
- Pa gymwyseddau eraill allai fod yn angenrheidiol yn eich barn chi?
| Gwybodaeth | Agweddau | Sgiliau |
|---|---|---|
| Trais uniongyrchol, strwythurol a diwylliannol | Meddwl agored a chynwysoldeb | Cydweithredu adeiladol |
| Achosion a dynameg gwrthdaro treisgar | Parchu’r hunan, pobl eraill a’r amgylchedd | Deialog |
| Dewisiadau heddychlon eraill yn lle trais | Empathi | Cyfryngu |
| Hawliau dynol rhyngwladol / rhywedd / safonau hil ac ati | Undod | Cyfathrebu di-drais (gan gynnwys cyfathrebu chwilfrydig a phendant) |
| Materion cyfoes | Cysylltiadau cymdeithasol | Deall, rheoli a mynegi emosiynau |
| Yr amgylchedd a chynaliadwyedd | Hunanymwybyddiaeth | Gwrando gweithredol |
| Prosesau dinesig | Goddefgarwch | Cydweithredu rhyngddiwylliannol |
| Heddwch cadarnhaol a heddwch negyddol | Awydd i hyrwyddo cyfiawnder | Gwaith tîm |
| Cynhwysiant ac allgáu | Cyfrifoldeb cymdeithasol | Sgiliau dadansoddi |
| Rheoli, atal, datrys a thrawsnewid gwrthdaro | Chwilfrydedd | Meddwl yn feirniadol |
| Dysgu rhyng-ffydd a rhyngddiwylliannol | Sensitifrwydd at rywedd | Trafod |
| Parodrwydd i gydweithredu | Myfyrio |
Trafodaeth
Mae angen llawer o gymwyseddau ar addysgwyr heddwch, rhai sy’n benodol i addysg heddwch ond eraill sy’n cyd-fynd â chymwyseddau cyffredinol addysgwr ymroddedig, fel y gallu i ymchwilio a chynllunio gwersi difyr, meithrin perthynas dda â thimau (plant a phobl ifanc yn ogystal ag oedolion) neu reoli trafodaethau heriol. Mae cymwyseddau proffesiynol a ddangosir gan yr oedolion yn y fideos rydych chi wedi eu gwylio drwy gydol y cwrs hwn yn cynnwys ymrwymiad i glywed lleisiau plant a phobl ifanc, i ddeall y gymuned leol neu i fabwysiadu dulliau creadigol mewn ymarfer bob dydd. Gallai cymwyseddau ychwanegol ar gyfer addysgwyr heddwch hefyd gynnwys gwerthoedd fel ymrwymiad i gydraddoldeb, i ymddygiad di-drais ac i ymgysylltu’n gadarnhaol â gwrthdaro.
Rhan 2: Fy llesiant fel addysgwr heddwch
Dyma’r diffiniadau o lesiant a roddwyd gan Cremin a Bevington, y daethoch ar eu traws am y tro cyntaf yn Sesiwn 2 y cwrs. Darllenwch y diffiniadau o lesiant eto cyn rhoi cynnig ar gam nesaf y gweithgaredd hwn.
Yn awr, ystyriwch: pa gymwyseddau ychwanegol fydd yn eich helpu i ofalu amdanoch eich hun fel addysgwr heddwch? (Er enghraifft, gwybod pryd i ofyn am gymorth gan eich cydweithwyr.)
Trafodaeth
Gallai cymwyseddau llesiant gynnwys gallu rheoli emosiynau, yn enwedig wrth addysgu pynciau y gellid eu hystyried yn heriol, neu wrth ddelio â gwrthdaro a allai godi ymysg plant neu oedolion yn yr ysgol. Gallai addysgwyr heddwch ddatblygu strategaethau i ddiogelu eu hapusrwydd a’u diogelwch eu hunain fel athro, gan gynnwys gwneud yn siŵr eu bod yn cael digon o amser hamdden y tu allan i’r ysgol, neu eu bod yn bwyta cinio bob dydd. Strategaeth ddefnyddiol arall yw dod o hyd i fannau tawel mewn diwrnodau prysur i eistedd a meddwl am gyfnod, gydag aelodau eraill o gymuned yr ysgol neu hebddynt.
Rhan 3
Yn awr, edrychwch ar yr holl gymwyseddau rydych chi wedi meddwl amdanynt a meddyliwch am y cwestiynau a ganlyn:
- Pa un ydw i gryfaf ynddo?
- Beth sy’n cael ei gefnogi fwyaf yn fy lleoliad?
- Beth sydd angen i mi ei ddatblygu?
- Beth alla i ei gyflawni’n realistig?
Trafodaeth
Byddwch wedi nodi llawer o gryfderau yn eich ymarfer addysgol presennol y gallwch eu defnyddio yn eich gwaith fel addysgwr heddwch. Peidiwch ag anghofio’r cymwyseddau y byddwch wedi eu datblygu drwy wneud y cwrs hwn, fel gwybodaeth am y gwahanol fathau o drais a dealltwriaeth o ddewisiadau heddychlon yn lle trais. Gallech ddweud bod eich awydd i hyrwyddo cyfiawnder yn amlwg ar ôl cyrraedd y sesiwn olaf!
Mae’n bosibl yr hoffech chi nodi eich cymwyseddau presennol yn rhywle a’u defnyddio fel datganiadau cadarnhaol amdanoch chi eich hun pan fyddwch chi wedi cael diwrnod anodd. Yna trowch eich sylw at y cwestiynau eraill a fydd yn eich helpu i feddwl am ble gallech chi ddatblygu, beth gallech chi ei flaenoriaethu a pha gymorth a allai fod ar gael.
Sesiynau DPP
Os ydych chi’n gwneud y gweithgaredd hwn gyda grŵp, yn Rhan 1 y gweithgaredd hwn, gallech dynnu llun o amgylch un o’r cyfranogwyr neu gael amlinell wedi ei pharatoi ymlaen llaw o unigolyn ar bapur y gall pawb ei hanodi â phapurau nodiadau gludiog i gasglu syniadau (gweler Ffigur 1). Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael amser i drafod y mathau o gymwyseddau mae pobl yn teimlo y gallai fod eu hangen ar addysgwyr heddwch.
Ar gyfer Rhan 2, gallech feddwl am sut byddwch chi’n gofalu am eich gilydd ar eich taith heddwch gyda’ch gilydd.
