1.1 Llunio cynllun datblygu personol
Dylai eich ymatebion i’r cwestiynau yng Ngweithgaredd 1 eich helpu i gynllunio ar gyfer eich camau nesaf ar eich taith fel addysgwr heddwch. Er enghraifft, bydd nodi meysydd lle mae cymorth ar gael yn eich lleoliad yn eich helpu i feddwl am bwy i gysylltu â nhw a ble gallech chi ddechrau yn eich datblygiad. Dewiswch un neu ddau o’r pwyntiau hyn o bosibl i weithredu arnynt a defnyddio’r cwestiwn olaf – Beth alla i ei gyflawni’n realistig? – i’ch helpu i benderfynu ble i ddechrau a’r camau y gallech eu cymryd.
Beth bynnag y penderfynwch ei wneud, cadwch gofnod o’ch cynnydd, a dathlwch bob llwyddiant, waeth pa mor fach ydyw.
Yn rhan nesaf y sesiwn byddwch yn dechrau meddwl am ddatblygu addysg heddwch yng nghymuned yr ysgol gyfan.