Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.1 Gweithio tuag at ethos cydlynol o heddwch

Mae’r diagram isod yn cynrychioli’r haenau o heddwch sy’n gorgyffwrdd ac sy’n cyfrannu at we ryng-gysylltiedig o berthnasoedd – ecoleg gydlynol – heddwch mewn cymuned addysgol. Sylwch fod ‘dysgu perthnasu’ wrth galon y diagram gyda phob haen yn disgrifio cydrannau cydgysylltiedig hyn. Mae pob haen yn cynrychioli un o’r pedair agwedd ar heddwch rydych chi wedi eu hastudio ar y cwrs hwn.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 3 Yr haenau o heddwch sy’n gorgyffwrdd

Fel y gwelwch, mae'r haenau o addysg heddwch rydych chi wedi eu trafod yn ystod y cwrs hwn yn cydberthyn, ac mae cymuned ysgol heddychlon yn dibynnu ar bob aelod yn teimlo ei fod wedi ei rymuso i chwarae ei ran, waeth pa mor fach. Mae Peace at the Heart yn ein hatgoffa:

Mae ‘ysgol heddwch’ nid yn gymaint yn fan lle mae egwyddorion heddwch yn cael eu cyflawni’n llawn, ond lle maent yn cael eu hymarfer a’u dysgu bob dydd.

(PATH, 2022, t. 38).

Mae cymunedau heddychlon cynaliadwy yn parhau ymhlith bywydau arferol staff, myfyrwyr a theuluoedd. Gall gymryd blynyddoedd lawer o waith wedi ei gynllunio’n ofalus i sefydlu ethos o heddwch sy’n para drwy bob agwedd ar yr ysgol.