Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.2 Adnoddau i gynorthwyo eich taith heddwch

Nid yw ysgolion ac addysgwyr ar eu pen eu hunain yn eu gwaith heddwch. Drwy gydol y cwrs hwn, rydych chi wedi cael golwg ar sefydliadau sy’n cefnogi agweddau ar feithrin heddwch yn yr ysgol. Mae’r rhain yn amrywio o elusennau fel Oxfam, grwpiau ffydd fel y Crynwyr ym Mhrydain (cyd-awduron y cwrs hwn) a chynlluniau cenedlaethol fel Scottish Peer Mediation, Cymru Global a Ideas For Global Citizenship (IDEAS). Mae’r grwpiau hyn yn cynnig amrywiaeth o adnoddau y gellid eu defnyddio i gynorthwyo datblygiad ysgolion ym mhob agwedd ar addysg heddwch. Mae dolenni i’r sefydliadau hyn ar y dudalen adnoddau ac argymhellion.

Gyda Pax Christi, mae’r Crynwyr ym Mhrydain hefyd yn cyd-gadeirio’r Rhwydwaith Addysg Heddwch. Mae llawer o’r sefydliadau rydych chi wedi cwrdd â nhw yn ystod y cwrs hwn yn aelodau o’r Rhwydwaith Addysg Heddwch. Ar eu gwefan fe welwch becynnau dysgu heddwch ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, sydd â chyfoeth o weithgareddau ar gyfer addysg heddwch. Mae’r Pecynnau Addysgu Heddwch hefyd ar gael yn y Gymraeg [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Yn ogystal, mae’r wefan yn cynnwys ddolenni i grwpiau defnyddiol eraill.

Mae sefydliadau hefyd (fel Facing History and Ourselves) sy’n cynnig cynlluniau gwersi, hyfforddiant a ffyrdd o fynd i’r afael â phynciau mewn heddwch yn y byd ehangach. Mae Athroniaeth i Blant (P4C) yn cynnig dull o archwilio rhai o'r themâu a drafodwyd yn y cwrs hwn. Yn ogystal â hyn, ceir cynlluniau achredu ysgolion sy’n cefnogi addysg heddwch, fel Ysgolion sy’n Parchu Hawliau UNICEF, a Chymru Global, sydd â chynllun Gwobr Ysgolion Heddwch ac sy’n cynnig hyfforddiant a deunyddiau cwricwlwm ar gyfer ysgolion yng Nghymru. Mae cynlluniau o’r fath hefyd yn cynnig adnoddau i gynorthwyo ysgolion ar eu teithiau heddwch. Unwaith eto, mae tudalen adnoddau ac argymhellion y cwrs hwn yn cynnwys dolenni i’r sefydliadau hyn.

Er y gall fod goblygiadau cost i rai o’r adnoddau a’r hyfforddiant mae’r safleoedd hyn yn eu cynnig, mae adnoddau am ddim hefyd yn aml y gallech eu harchwilio wrth i chi ddechrau ar eich taith heddwch.