Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.3 Gwerthuso adnoddau heddwch

Fel y gwelsoch yn Sesiwn 5, rhaid bod yn ofalus wrth werthuso adnoddau ar gyfer eich cwricwlwm heddwch. Wrth ddefnyddio adnoddau gan sefydliadau allanol yn eich cwricwlwm heddwch, gallech ystyried...

A yw’r adnodd hwn:

  • yn mynd i’r afael ag anghenion presennol ein lleoliad addysgol?
  • yn ategu ymrwymiadau addysg heddwch?
  • yn addo ysbrydoli ymholiadau a chyfnewidiadau sy’n addysgol gynhyrchiol?
  • yn cynnig gwybodaeth gytbwys a diduedd?
  • yn cynnig cydbwysedd da o weithgareddau sy'n rhoi modd i ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau a chyfleoedd addysgu (myfyriol/deialog/hwyl/cyfranogol)?

Wrth feddwl am geisio hyfforddiant neu wasanaeth i'ch helpu i ddatblygu fel ysgol heddwch, gallech ofyn:

  • Ydyn ni’n barod am yr hyfforddiant/gwasanaeth hwn?
  • A oes unrhyw waith paratoi y mae angen i ni ei wneud cyn ymgysylltu â’r hyfforddiant neu’r gwasanaeth hwn?
  • Sut byddwn ni’n mynd ar drywydd yr hyfforddiant, gan sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cynorthwyo a’u cynnwys wrth roi’r cynllun newydd ar waith?

Pa bynnag adnoddau rydych chi’n eu defnyddio i gefnogi eich taith heddwch, cofiwch eu defnyddio ar gyflymder sy’n rhoi’r modd i holl aelodau cymuned yr ysgol deimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u grymuso.