3 Y camau nesaf
Cam canol hanfodol rhwng nodi mannau y mae angen eu trawsnewid a gweithio dros newid yw’r gallu i symud o’r hyn a ganfyddir i’r hyn sy’n bosibl—y gallu i ddychmygu ar wahân i’r hyn sydd.
Yn yr adran olaf hon byddwch yn llunio cynllun ar gyfer yr hyn y gallech ei wneud ar gam nesaf eich datblygiad fel addysgwr heddwch neu gymuned heddychlon yn yr ysgol. Os ydych chi’n cynllunio ar gyfer cymuned eich ysgol, dylech ddechrau drwy ystyried cylch eich dylanwad eich hun a beth fyddai’n ddefnyddiol i chi ei wneud o fewn hynny fel cam cyntaf. Gallech hefyd ystyried sut gallai eich dyheadau ar gyfer addysg heddwch gyd-fynd ag unrhyw gynllun sydd gennych chi neu eich lleoliad addysgol yn barod ar waith.
Sesiynau DPP
Os ydych chi’n gweithio gyda grŵp, gallech orffen drwy lunio cynllun gyda’ch gilydd gan ddefnyddio’r cwestiynau a awgrymir. Gallai cyfranogwyr ddechrau drwy wneud ‘rhestr ddymuniadau’ o feysydd y gallent fod eisiau canolbwyntio arnynt, yna cytuno ar flaenoriaethau a chyfrifoldebau fel grŵp. Gallech hefyd ystyried beth rydych chi’n treulio’r rhan fwyaf o’ch amser arno – gwneud heddwch, cadw heddwch neu feithrin heddwch fel man cychwyn.
Gweithgaredd 3 Gwneud cynllun
Rhan 1
Defnyddiwch y blwch ymateb isod i ddechrau braslunio eich syniadau cyntaf am yr hyn yr hoffech weithio tuag ato o ganlyniad i ddilyn y cwrs hwn. Gallwch lwytho'r holl nodiadau rydych chi wedi eu gwneud i'ch helpu i feddwl am hyn [llywiwch i lawr ochr chwith unrhyw dudalen a chliciwch ar y ddolen o dan 'Fy atebion'].
Rhan 2
Defnyddiwch yr ymatebion i’r gweithgareddau rydych chi wedi eu cynnal yn y sesiwn hon i flaenoriaethu maes penodol i’w ddatblygu.
Rhan 3
Nesaf, penderfynwch ar fformat ar gyfer creu eich cynllun gweithredu. Mae’n helpu i greu amserlenni ar gyfer camau gweithredu a’u rhannu’n gamau bach y gellir eu cyflawni’n realistig. Ceisiwch osgoi fformatau rhy gymhleth a allai fod yn feichus. Dylai eich cynllun fod yn adnodd defnyddiol ar eich taith heddwch yn hytrach na ffurflen i’w llenwi! Os oes gan eich ysgol fformat cynllunio dibynadwy, defnyddiwch hwnnw.
Rhan 4
Yn awr, ewch ati i greu eich cynllun ar gyfer y camau nesaf ar eich taith heddwch.
Meddyliwch am yr hyn y gallech chi ei gyflawni o fewn eich cylch dylanwad presennol, beth bynnag y gallai hynny fod. Mae’n bosibl y bydd eich cynllun ar eich cyfer chi fel addysgwr heddwch, neu ar gyfer y tîm neu'r grŵp rydych chi'n gweithio gyda nhw. Dyma restr o gwestiynau a allai eich helpu i lunio eich cynllun.
Ymchwilio
- Beth rydyn ni am ei gyflawni?
- Beth sydd angen i ni ei ddarganfod?
- Gyda phwy mae angen i ni siarad?
- Pa faterion y gallai fod angen eu datrys?
Gweithredu
- Pa gamau y mae angen i ni eu cymryd?
- Pam fydd y camau hyn yn ategu ein nodau?
- Beth yw’r risgiau a’r rhwystrau?
- Sut byddwn ni’n lliniaru’r rhain?
- Pwy fydd yn gyfrifol?
- Beth sy’n amserlen realistig?
Gwerthuso
- Sut byddwn ni’n gwybod a yw’n gweithio?
- Beth allai fod angen i ni ei addasu?
Yn anad dim, cofiwch roi sylw i lesiant pawb ar eich taith heddwch, a dathlu pob cyflawniad.
Gair neu ddau cyn cloi gan gyd-awduron y cwrs, Sioned a Jane...
