4 Crynodeb o Sesiwn 6
Yn y sesiwn olaf hon o’r cwrs, rydych chi wedi dechrau gweld eich hun fel addysgwr heddwch, a sut gellir ystyried addysg heddwch yn addysg o safon o fewn Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Rydych wedi ystyried yr ymrwymiadau addysg heddwch mewn perthynas â'ch ymarfer presennol ac wedi dechrau meddwl am yr hyn y gallech chi ei wneud nesaf a ble gallech chi fynd i gael cymorth.
Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau astudio'r cwrs hwn a dymunwn y gorau i chi ar gyfer cam nesaf eich taith heddwch. Mae'r cwrs hwn ar gael yn rhad ac am ddim ar OpenLearn a gallwch ddychwelyd ato unrhyw bryd.
Rhannwch eich barn â ni
Gan eich bod chi wedi cyrraedd diwedd y cwrs, byddem yn gwerthfawrogi pe baech chi’n rhoi ychydig funudau o’ch amser i lenwi'r arolwg byr ar ddiwedd y cwrs [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Hoffem ni gael gwybod ychydig bach am eich profiad o astudio'r cwrs a beth rydych chi’n bwriadu ei wneud nesaf. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddarparu profiadau ar-lein gwell i’n holl ddysgwyr ac i rannu ein canfyddiadau ag eraill. Bydd cymryd rhan yn gwbl gyfrinachol ac ni fyddwn yn pasio eich manylion ymlaen i unrhyw un arall.