Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Adnoddau’r cwrs ac argymhellion

Sesiwn 1

Rhwydwaith Addysg Heddwch [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (Grŵp o sefydliadau sy'n gweithio dros heddwch o amrywiaeth o safbwyntiau. Mae'r rhwydwaith wedi cynhyrchu Adnoddau Teach Peace ar gyfer ysgolion Cynradd ac Uwchradd.)

Sesiwn 2

Pecyn Wythnos Heddwch (Adnoddau i ysgolion cynradd ac uwchradd gynnal eu hwythnosau heddwch eu hunain. Maent yn cynnwys sesiwn hyfforddi staff yn ogystal â gweithgareddau ar gyfer gwahanol grwpiau oedran.)

Sesiwn 3

Adnoddau Amser Cylch – Pecyn Cymorth ar gyfer Heddwch: Dulliau a Gemau (Adnoddau Peacemakers ar gyfer sesiynau cylch ysgolion cynradd.)

Adnoddau Amser Cylch – Gweithgareddau Cynhesu (Gweithgareddau a awgrymir gan Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Rhydychen.)

Rheoli Gwrthdaro (Adnoddau gan Achub y Plant i helpu plant a phobl ifanc ddatblygu sgiliau i reoli gwrthdaro.)

Sesiwn 4

Ysgolion Adferol (Gwybodaeth am ysgolion adferol gan Fforwm Cyfiawnder Adferol Ewrop.)

Ysgolion Noddfa (Ar gyfer Ysgolion Cynradd ac Uwchradd sy’n dymuno deall a chefnogi plant a phobl ifanc sy’n cael eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi.)

Ysgolion Heddwch Cymru (Menter Ysgolion Heddwch a gynhelir ar gyfer ysgolion a lleoliadau gan Gymru Global. Mae’n cynnig adnoddau, hyfforddiant a chynadleddau ac yn cynnal rhaglen achredu i ysgolion.) Mae'r fideo hwn am waith Ysgol Heddwch Ysgol Uwchradd Cyfarthfa i addysgu pobl ifanc am hanes gwneud heddwch, gan gynnwys Gwrthwynebwyr Cydwybodol Merthyr Tudful, yn cynnig mwy o wybodaeth am y fenter.

Cymru Global (Pecyn adnoddau i athrawon sy’n gweithio gyda Nod Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ar gyfer Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cryf.)

CRESST (Datrys Gwrthdaro ar gyfer Pobl Ifanc gan Bobl Ifanc) (Adnoddau ar gyfer ysgolion Cynradd ac Uwchradd sy’n datrys gwrthdaro, yn enwedig cyfryngu rhwng cyfoedion. Mae’r mudiad hwn yn cynnal cynadleddau a hyfforddiant ar gyfer staff a disgyblion.)

Cyfryngu rhwng Cyfoedion yn yr Alban (Mae adran ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc sy'n cynnig hyfforddiant ac adnoddau.)

Ysgolion sy’n Parchu Hawliau UNICEF (gwefan y Deyrnas Unedig ar gyfer menter Ysgolion sy’n Parchu Hawliau UNICEF. Mae’n rhedeg cynllun gwobrwyo sydd wedi hen ennill ei blwyf ar gyfer ysgolion ac mae’n cynnig hyfforddiant, adnoddau ac achrediad.)

Sesiwn 5

DECSY (Development Education Centre South Yorkshire) (Sefydliad addysgol sy'n hyrwyddo Dysgu Byd-eang. Mae eu gwefan yn cynnwys adnoddau a chynlluniau gwersi ar gyfer addysgu am weithredu di-drais ac ymgyrchwyr. Yn cynnwys hyfforddiant, adnoddau a dolenni i Athroniaeth i Blant (gweler dolenni Sesiwn 6, isod.))

Gwefannau sy’n argymell llyfrau i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth: Amnest Rhyngwladol (Amryw o lyfrau a gweithgareddau a awgrymir ar gyfer dysgu am hawliau dynol.); Rhestr lyfrauar thema BookTrust (Rhestrau llyfrau sy’n mynd i’r afael â themâu i’w harchwilio gan blant a phobl ifanc gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches); Centre for Literacy in Primary Education (Sefydliad yn Llundain ar gyfer ysgolion cynradd sy’n cyhoeddi’r adroddiad blynyddol Reflecting Realities ar amrywiaeth mewn llyfrau plant.)

Defnyddio storïau ar gyfer materion byd-eang (Canolfan Addysg Ddatblygiadol Gorllewin yr Alban. Sefydliad addysgol sy’n creu adnoddau ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang. Gweithiodd y ganolfan gydag Ysgol Gynradd Oakgrove ar eu prosiect Wangari’s Trees of Peace .)

Mae'r gwefannau hyn yn cysylltu â gwybodaeth ac adnoddau am ddysgu byd-eang

Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen yr adroddiad hwn ar Ddysgu Byd-eang, a gyhoeddwyd yn 2025: The Case for Global Learning in the UK: Transforming our educational approaches in a complex, global world

Sesiwn 6

Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig: ffeithiau cyflym; nodau; datblygu cynaliadwy

Oxfam (Mae gan Oxfam adran addysg gydag adnoddau ar gyfer lleoliadau addysgol.)

IDEAS (International Development Education Association Scotland) (Adnoddau ystafell ddosbarth ar themâu fel hawliau dynol, caethwasiaeth, cyfiawnder a thegwch a datblygu cynaliadwy ar gyfer addysg gynradd ac uwchradd.)

Facing History and Ourselves (Adnoddau ar gyfer defnyddio dull beirniadol o ddysgu hanes. Mae’n cynnwys erthyglau a chynlluniau gwersi.)

Athroniaeth i Blant (Dull addysgu sy'n datblygu sgiliau gan gynnwys meddwl yn feirniadol a gwerthuso.)

Gwobrau Ysgolion Heddychlon (Cynllun rhad ac am ddim ar gyfer achredu ysgolion fel Cynlluniau Heddychlon. Mae’r wefan yn cynnig adnoddau ac arweiniad.)

Mae West Midlands Peacemakers (Prosiect Addysg Heddwch Crynwyr Gorllewin Canolbarth Lloegr neu Peacemakers yn cynnig hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer addysgu heddwch a datblygu ymarfer adferol. Mae’r meysydd yr ymdrinnir â nhw yn cynnwys datblygu’r cwricwlwm a chyfryngu rhwng cyfoedion. Mae’r adnoddau’n cynnwys pecyn cychwynnol i ysgolion sy’n nodi eu taith heddwch – maent yn gwneud llawer o waith adferol ysgol gyfan.)

Ymgyrch Fyd-eang dros Addysg Heddwch (mudiad byd-eang o addysgwyr heddwch unigol a chyrff anllywodraethol addysg sydd wedi ymrwymo i feithrin diwylliannau o heddwch drwy addysg heddwch.)