1 Defnyddio mesuriadau metrig: hyd
Gallwn ddefnyddio unedau gwahanol i fesur hyd, lled neu uchder eitemau. Byddwn yn canolbwyntio ar unedau metrig.
Uned fetrig | Talfyriad |
---|---|
milimetr | mm |
centimetr | cm |
metr | m |
cilometr | km |
Milimetr yw’r uned fetrig leiaf a ddefnyddir gan y rhan fwyaf o bobl i fesur hyd rhywbeth. Byddech fel arfer yn defnyddio milimetrau i fesur eitemau sy’n fach iawn neu y mae angen eu mesur yn gywir iawn; er enghraifft, caiff dimensiynau peiriant golchi eu mesur mewn milimetrau fel arfer.
Hefyd caiff centimetrau a metrau eu defnyddio fel arfer i fesur eitemau ar gyfer tasgau pob dydd.
Byddai cilometrau’n cael eu defnyddio i fesur y pellter rhwng lleoedd. Efallai y bydd rhedwr yn cofnodi’r pellter mae wedi’i redeg mewn cilometrau.
Gweithgaredd 1: Pa uned?
Pa uned fyddech chi’n ei defnyddio i fesur y canlynol?
Peiriant golchi dillad
Y pellter rhwng Wrecsam a Chaerdydd
Hoelen
Cegin
Bws
Rhedfa mewn parc
Eich canol
Soffa
Amlen
Pen sgriw
Ateb
Atebion a awgrymir:
Centimetrau neu filimetrau
Cilometrau
Centimetrau neu filimetrau
Metrau
Metrau
Cilometrau
Centimetrau
Centimetrau neu fetrau
Centimetrau
Milimetrau