Sesiwn 4: Trin data
Cyflwyniad
Mae gwybodaeth o’ch cwmpas bob dydd. Yn aml bydd yn rhaid ichi ddadansoddi mathau gwahanol o wybodaeth heb sylweddoli eich bod chi’n gwneud hynny. Gallai’r wybodaeth hon, neu’r data hyn, gael eu cyflwyno ichi mewn rhaglenni teledu, papurau newydd, cylchgronau neu amserlenni, a gallan nhw gael eu cyflwyno mewn ffyrdd gwahanol, fel tablau, siartiau, diagramau neu graffiau. Yn aml caiff canlyniadau etholiadau [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] eu hysbysu trwy ddefnyddio dulliau gwahanol i ddangos y canlyniadau.
Erbyn diwedd y sesiwn hwn, byddwch yn gallu:
casglu a chofnodi data, ac yna eu trefnu a’u cynrychioli mewn ffyrdd gwahanol
canfod gwybodaeth mewn tablau, diagramau, siartiau a graffiau, a deall beth mae’n ei olygu
canfod cymedr ac amrediad set o rifau
defnyddio data i asesu pa mor debygol yw hi y bydd rhywbeth yn digwydd.

Transcript
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]
Mae data o’n cwmpas ni o hyd.
Yn wir, yn aml byddwch yn ymdrin â gwahanol fathau o ddata heb wybod hynny.
Pan fyddwch yn archebu gwyliau, efallai y byddwch eisiau gwybod y tymheredd cyfartalog ar yr adeg yna o’r flwyddyn cyn gwneud unrhyw benderfyniad.
Neu wrth ichi edrych ar amserlenni, i gynllunio taith a gwneud yn siŵr y byddwch yn cyrraedd pen eich taith yn brydlon.
Caiff data eu casglu mewn gwahanol ffyrdd: o bobl â chlipfyrddau’n gwneud ymchwil i’r farchnad, i ffyrdd llawer mwy technegol.
Yn wir, mae casglu data ar y rhyngrwyd wedi mynd yn fusnes mawr.
Ac yn aml mae’r newyddion yn sôn am achosion o dor-diogelwch data, sy’n creu trafferthion i gwmnïau.
Os ydych chi’n dechrau’ch busnes eich hun, gallai fod yn ddefnyddiol iawn deall data er mwyn ymchwilio i’ch darpar brynwyr a gwneud defnydd da o’ch dealltwriaeth o drin data.