Sesiwn 2: Unedau mesur
Cyflwyniad
Rydych yn dod ar draws problemau sy’n galw am gyfrifo bob dydd. Gallai’r problemau hyn fod yn ymwneud ag arian, amser, hyd, pwysau, cynhwysedd a thymheredd. Er enghraifft, pe baech chi’n prynu peiriant golchi dillad newydd, byddech yn mesur y gofod lle rydych eisiau ei roi o dan yr wyneb gweithio a gwneud yn siŵr eich bod yn dewis peiriant sy’n ddigon bach i fynd yn y gofod.
Yn y sesiwn hwn o’r cwrs, byddwch yn dysgu am fesur a chyfrifo hyd, pellter, pwysau, cynhwysedd (cyfaint), tymheredd ac amser. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio mesuriadau metrig gwahanol, fel cilometrau, metrau a chentimetrau, gramau a chilogramau, a litrau.
Erbyn diwedd y sesiwn hwn, byddwch yn gallu:
mesur a deall meintiau gwrthrychau
darllen siart milltiredd i ganfod y pellter rhwng lleoedd
canfod pa mor drwm yw pethau a deall pwysau
mesur a deall cyfeintiau a chynwyseddau
mesur a chymharu tymereddau
mynegi amser gan ddefnyddio’r cloc 24 awr
gwneud cyfrifiadau gydag amser.
Transcript
Mae llawer o fathau a meintiau gwahanol o unedau mesur, sy’n gallu drysu rhywun. Os ydych chi’n cynllunio taith ac yn ceisio gweithio allan pa mor hir y bydd yn ei gymryd neu’n ceisio rhoi darn newydd o ddodrefn mewn ystafell, neu’n ceisio barnu beth yw pwysau rhywbeth gall deall unedau mesur fod yn hanfodol.
Mae’n hanfodol mesur pethau fel eich tymheredd, hyd a phellter yn gywir, yn union fel mesur pwysau.
Beth bynnag rydych yn ei fesur os cewch chi’r mesuriadau yn gywir y tro cyntaf bydd bywyd llawer yn haws.