Sesiwn 3: Siapiau a gofod
Cyflwyniad
Pa mor aml mae’n rhaid ichi weithio gyda siapiau gwastad mewn sefyllfa bob dydd? Efallai y bydd angen ichi fesur o gwmpas gwrthrych, neu gynllunio sut i osod eich ystafell.
Erbyn diwedd y sesiwn hwn, byddwch yn gallu:
enwi siapiau dau ddimensiwn a thri dimensiwn cyffredin
adnabod gwahanol fathau o ongl
gweithio allan y pellter o gwmpas siâp
gweithio allan arwynebedd siâp
gweithio allan cyfaint ciwb neu giwboid
defnyddio graddfa mewn lluniau a mapiau.
Transcript
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]
Byddwch yn aml yn gweithio gyda siapiau gwastad, p’un a ydych chi’n gweithio allan y ffordd fwyaf cost effeithiol i deilsio ystafell ymolchi, neu’n penderfynu faint o duniau paent y bydd arnoch eu hangen i addurno, a faint o lanedydd y bydd ei angen i lanhau ar ôl gorffen!
Bydd edrych ar siapiau a gofod yn cynnig ffyrdd defnyddiol iawn o feddwl am y byd, gan gynnwys sut y gall dyluniadau gwahanol gael effeithiau gwahanol, fel gwneud i ystafelloedd edrych yn fwy.
Bydd hyn oll yn eich helpu mewn tasgau pob dydd yn ogystal â llawer o feysydd yn eich astudiaethau a’ch gwaith.