Sesiwn 1: Gweithio gyda rhifau
Cyflwyniad
Mae’n anodd iawn ymdopi â bywyd pob dydd heb ddealltwriaeth sylfaenol o rifau.
Gall cyfrifiannell fod yn ddefnyddiol iawn, er enghraifft i’ch helpu i wirio’ch gwaith cyfrifo neu i drosi ffracsiynau’n ddegolion.
Er mwyn cwblhau’r gweithgareddau yn y cwrs hwn bydd arnoch angen papur nodiadau, ysgrifbin i gymryd nodiadau a gwneud cyfrifiadau a chyfrifiannell.
Mae Sesiwn 1 yn cynnwys llawer o enghreifftiau o rifedd o fywyd pob dydd, gyda llawer o weithgareddau dysgu cysylltiedig â nhw sy’n cynnwys rhifau cyfan, ffracsiynau, degolion, canrannau, cymarebau a chyfrannedd.
Erbyn diwedd y sesiwn hwn, byddwch yn gallu:
- gweithio gyda rhifau cyfan
- talgrynnu
- deall ffracsiynau, degolion a chanrannau, a’r cywertheddoedd rhyngddynt
- defnyddio cymarebau a chyfrannedd
- deall fformwlâu geiriau a pheiriannau ffwythiant.
Transcript
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]
Os ydych yn siopa, yn brysur yn y gwaith neu hyd yn oed yn y tŷ, mae rhifau ym mhob man.
Mae’n amhosibl eu hosgoi. O wybod maint y dillad i’w prynu i weithio allan faint o arian sydd gennych i’w wario, mae’n anodd dychmygu byd heb rifau.
Mae dealltwriaeth sylfaenol o fathemateg a rhifau yn bwysig i gynifer o benderfyniadau a wnawn yn ein bywydau pob dydd. A beth bynnag rydych yn ei brynu, bydd rhaid ichi ymdrin â ffracsiynau a chanrannau hefyd, sy’n gallu bod yn ddefnyddiol iawn wrth weithio allan a yw cynnig arbennig yn fargen mewn gwirionedd. Os ydych chi’n cymysgu sment, mae cymhareb a chyfrannedd yn bwysig iawn, yn yr un ffordd â phe baech chi’n gweithio allan y meintiau cywir o gynhwysion pan fyddwch yn pobi.
Mewn bywyd pob dydd, does dim rhaid i rifau fod yn her. Gallan nhw fod yn ddefnyddiol mewn sawl ffordd.