3 Defnyddio mesuriadau metrig: pwysau
Mae pwysau – weithiau cyfeirir ato fel ‘más’ – yn fesuriad o ba mor drwm yw rhywbeth.
Faint ydych chi’n ei bwyso?
Efallai eich bod wedi rhoi’ch pwysau mewn cilogramau (kg) neu mewn pwysau (lb), neu bwysau a stonau (st). Mae cilogramau’n bwysau metrig. Mae stonau a phwysau yn bwysau imperial.
Yn y Deyrnas Unedig, gellir defnyddio unedau metrig a rhai imperial. Byddwn yn canolbwyntio ar yr unedau pwysau metrig yma.
Uned fetrig | Byrfodd |
---|---|
miligram | mg |
gram | g |
cilogram | kg |
tunnell | (Dim byrfodd) |
Defnyddir miligramau (mg) dim ond ar gyfer meintiau neu eitemau bach iawn, fel dos o feddyginiaeth.
Mae tunnell yn uned ar gyfer pwyso eitemau trwm iawn, fel lori.
Ar gyfer tasgau mesur pob dydd, yr unedau pwysau metrig mwyaf cyffredin yw gramau (g) a chilogramau (kg), felly byddwch yn canolbwyntio ar y rhain yma.
1 g yw pwysau clip papur, yn fras
1 kg yw pwysau bag o siwgr
Ffaith allweddol: 1 000 gram (g) = 1 cilogram (kg)
Awgrym: Os ydych chi wedi arfer â defnyddio’r system mesur imperial, mae 1 cilogram yn gywerth â rhyw 2 bwys.
Caiff llawer o fwydydd eu gwerthu yn ôl eu pwysau. Er enghraifft:
10 g o sbeis
30 g o greision
100 g o siocled
250 g o goffi
500 g o reis.
Caiff pethau trymach eu pwyso mewn cilogramau:
Sach 2 kg o datws
10 kg o fwyd ieir
15 kg lwfans bagiau ar awyren
Bag 25 kg o sment
Noder – pe baech chi wedi prynu deg pecyn o reis, byddech yn dweud eich bod wedi prynu 5 kg yn hytrach na 5 000 g.