4.1 Offer mesur
I fesur maint bach iawn, efallai y byddech yn defnyddio llwy de. Mae hwn yr un peth â 5 mililitr (ml).
I fesur meintiau mwy, mae’n debyg y byddech yn defnyddio jwg mesur o ryw fath. Yn aml mae jygiau mesur wedi’u labelu â mililitrau, yn arbennig rhai newydd, a gallant ddod mewn meintiau gwahanol: gall rhai fesur hyd at 500 ml o hylif ac eraill hyd at 1 litr (1 000 ml). Gall rhai ddal mwy neu lai na hyn.
Nawr edrychwch ar yr enghraifft ganlynol.
Enghraifft: Mesur hylifau
Pe bai’n rhaid ichi fesur 350 ml o sudd ar gyfer rysáit, ble fyddai’r hylif yn cyrraedd yn y jwg hwn?
Dull
Mae tri marc ar y jwg rhwng 300 ml a 400 ml. Mae’r rhain yn marcio 325, 350 a 375 ml. Felly mae angen ichi lenwi’r jwg at y marc canol (cofiwch chwilio am y lefel lle mae’r hylif yn cyffwrdd â’r raddfa). Efallai bydd yn rhaid ichi ddal y jwg i fyny i lefel eich llygad er mwyn mesur y maint mor gywir ag y gallwch.
Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.
Gweithgaredd 15: Edrych ar gynhwysedd (cyfaint)
Nawr eich bod wedi gweld yr enghraifft, rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol:
Faint o goffi neu de mae’r cwpan a ddefnyddiwch fel arfer yn ei ddal? Amcangyfrifwch y cyfaint yn gyntaf, ac ysgrifennwch eich amcangyfrif i lawr. Nesaf, llenwch eich cwpan â dŵr ac arllwyswch y dŵr i jwg mesur. (Awgrym: mae potel safonol o ddŵr yn dal 500 ml. Mae can o bop yn dal 330 ml).
Mae’n rhaid i wyddonydd fesur 2.8 ml o hylif yn y chwistrell hon. At ba farc ddylai’r hylif gyrraedd?
Mae plymwr wedi draenio’r dŵr o system gwres canolog ddiffygiol i set o jygiau mesur. Beth yw cyfanswm y litrau mae’r plymwr wedi’u draenio o’r system? Sylwch fod y raddfa wedi’i marcio mewn ffracsiynau o litr yn hytrach na mililitrau ar y jygiau mesur hyn.
Ateb
Amcangyfrifais fod fy nghwpan yn dal 400 ml. Mewn gwirionedd, mae’n dal 350 ml. Efallai y bydd eich ateb chi’n gwbl wahanol, gan ddibynnu ar faint y cwpan.
Mae’r rhaniadau wedi’u marcio pob 0.1 ml. Dylai’r chwistrell edrych fel hyn:
Mae’r plymwr wedi draenio llond dau jwg un litr a thri chwarter jwg arall, sef cyfanswm o 2.75 litr. Gellid ysgrifennu hyn hefyd fel 2 750 ml neu 2 litr 750 ml.