4.2 Trosi unedau cynhwysedd metrig
Weithiau bydd angen ichi newid rhwng mililitrau a litrau. Mae 1 000 o fililitrau mewn litr.
Cyfeiriwch at y siart trosi metrig hwn pan fyddwch yn gwneud y gweithgaredd isod.
Fel y soniwyd eisoes, gellir mesur cynhwysedd/cyfaint mewn centilitrau (cl), ond mae’n fwy cyffredin defnyddio mililitrau (ml) a litrau (l), felly byddwn yn canolbwyntio ar drosi rhwng y rhain yma.
Enghraifft: Trosi unedau cynhwysedd
Troswch y canlynol o litrau i fililitrau:
a.7 litr = ? ml
b.8.5 litr = ? ml
Troswch y canlynol o fililitrau i litrau:
a.6 000 ml = ? litr
b.2 750 ml = ? litr
Dull
Fel y gwelwch o Ffigur 33, i drosi o litrau (l) i fililitrau (ml), mae angen ichi luosi â 1 000:
a.7 l × 1 000 = 7 000 ml
b.8.5 l × 1 000 = 8 500 ml
Os ydych eisiau trosi o fililitrau (ml) i litrau (l) yna mae angen ichi rannu â 1 000:
a.6 000 ml ÷ 1 000 = 6 l
b.2 750 ml ÷ 1 000 = 2.75 l
Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol.
Gweithgaredd 16: Trosi unedau cynhwysedd metrig
Cyfrifwch y canlynol heb ddefnyddio cyfrifiannell. Efallai y byddwch eisiau edrych yn ôl ar Sesiwn 1 i’ch atgoffa sut i luosi [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a rhannu â 1 000. Cofiwch wirio’ch atebion.
Beth yw’r mesuriadau canlynol mewn litrau?
a.4 000 ml
b.3 500 ml
c.650 ml
d.8 575 ml
Beth yw’r mesuriadau canlynol mewn mililitrau?
a.9 litr
b.2.5 litr
c.4.8 litr
d.8.95 litr
Ateb
Mae’r atebion fel a ganlyn:
a.4 000 ml ÷ 1 000 = 4 litr
b.3 500 ml ÷ 1 000 = 3.5 litr
c.650 ml ÷ 1 000 = 0.65 litr
d.8 575 ml ÷ 1 000 = 8.575 litr
Mae’r atebion fel a ganlyn:
a.9 litr × 1 000 = 9 000 ml
b.2.5 litr × 1 000 = 2 500 ml
c.4.8 litr × 1 000 = 4 800 ml
d.8.95 litr × 1 000 = 8 950 ml