Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6 Amser

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y cloc 12 awr a’r cloc 24 awr?

Y cloc 12 awrY cloc 24 awr

Aiff yr oriau o 12 i 12, dwywaith y dydd

Rhaid ichi ddefnyddio ‘a.m.’ neu ‘p.m.’: ystyr ‘a.m.’ yw ‘cyn hanner dydd’ ac ystyr ‘p.m.’ yw ‘ar ôl hanner dydd’.

Aiff yr oriau o 0 i 23

Caiff yr amser ei ddangos mewn pedwar digid bob tro

Nid ydych yn defnyddio ‘a.m.’ na ‘p.m.’

Caiff ei ddefnyddio’n gyffredin mewn amserlenni, ffonau symudol a chyfrifiaduron

Enghraifft: Trosi amserau cyn hanner dydd

Mae’n hawdd newid amserau o’r cloc 12 awr i’r cloc 24 awr ar gyfer amserau cyn hanner dydd (neu amserau ag ‘a.m.’ ar eu hôl). Er enghraifft, byddai ‘4:25 a.m.’ yn cael ei ysgrifennu fel ‘04:25’. Byddai ‘11:35 a.m.’ yn ‘11.35’.

(Noder nad yw llawer o amserlenni’n dangos y colon yn y cloc 24 awr, felly byddai’r amserau hyn yn cael eu dangos fel ‘0425’ neu ‘1135’.)

Sut fyddech chi’n ysgrifennu chwarter i wyth yn y bore fel amser cloc 24 awr?

Dull

Mae un deg pum munud cyn wyth o’r gloch yr un peth â 45 munud wedi 7, felly caiff ei ysgrifennu fel 07:45.

I newid o’r cloc 12 awr i’r cloc 24 awr ar gyfer amserau ar ôl hanner dydd (â ‘p.m.’ ar eu hôl), fel arfer bydd angen ichi adio 12 awr.

Enghraifft: Trosi amserau ar ôl hanner dydd

  1. Sut fyddech chi’n mynegi 8:15 p.m. gan ddefnyddio’r cloc 24 awr?

  2. Sut fyddech chi’n ysgrifennu chwarter i wyth gyda’r nos fel amser cloc 24 awr?

Dull

  1. Mae angen ichi adio 12 awr:

    Described image

    Felly 8:15 p.m. yw 20:15 ar gloc 24 awr.

  2. Rydych chi’n adio 12 awr:

    Described image

    Felly 7:45 p.m. yw 19:45 ar gloc 24 awr.

Awgrym: Cymerwch ofal ag amserau â 12 o’r gloch. Felly chwarter wedi hanner nos, neu 12:15 a.m., yw 00:15 ar gloc 24 awr. Yn yr un modd chwarter wedi hanner dydd, neu 12:15 p.m., yw 12:15 ar gloc 24 awr.

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol.

Gweithgaredd 20: Y cloc 24 awr

Ffigur 44 Wyneb cloc

Mynegwch yr amserau canlynol ar y cloc 24 awr. Cofiwch, ar gyfer rhai ohonynt, bydd angen ichi ddefnyddio’r dull o adio 12 awr i drosi’r amser i’r fformat 24 awr. Gallech ddefnyddio Ffigur 44 i’ch helpu i gyfrif ymlaen 12 awr.

  1. 8:15 a.m.

  2. 2:50 p.m.

  3. 5:40 a.m.

  4. 9:22 p.m.

  5. Deg munud i ddeg yn y bore

  6. Pum munud wedi chwech gyda’r nos

Ateb

  1. 08:15

  2. 14:50

  3. 05:40

  4. 21:22

  5. 09:50

  6. 18:05