4 Arwynebedd
Arwynebedd yw faint o ofod mae siâp gwastad yn ei gymryd. Bydd angen ichi allu cyfrifo arwynebedd os byddwch eisiau archebu carped i’ch tŷ, prynu teils ar gyfer cegin neu ystafell ymolchi, neu gyfrifo faint o baent i’w brynu wrth ailaddurno.
Mae gan y patio hwn gerrig palmant sy’n 1 metr sgwâr (mae pob ochr yn mesur 1 metr). Faint o gerrig palmant sydd ar y patio?
Caiff arwynebedd ei fesur mewn unedau ‘sgwâr’. Mae hyn yn golygu y dangosir yr arwynebedd fel nifer y sgwariau fyddai’n gorchuddio’r wyneb. Felly os yw patio wedi’i orchuddio ag 18 sgwâr sy’n mesur 1 metr wrth 1 metr, yr arwynebedd yw 18 metr sgwâr.
(Os cyfrwch y sgwariau, byddwch yn gweld bod yna 18 ohonyn nhw.)
Byddai arwynebeddau llai yn cael eu mesur mewn centimetrau sgwâr. Gall arwynebeddau mwy gael eu mesur mewn cilometrau sgwâr neu filltiroedd sgwâr.
Gallwch weithio allan arwynebedd petryal, fel y patio uchod, trwy luosi’r ochr hir â’r ochr fer:
lled × hyd = arwynebedd
Arwynebedd y patio yw:
6 × 3 = 18 metr sgwâr
Gellir ysgrifennu ‘metrau sgwâr’ hefyd fel ‘m2’.
Gweithgaredd 9: Arwynebedd petryal
Cwblhewch y tabl canlynol trwy gyfrifo’r arwynebedd sydd ar goll heb ddefnyddio cyfrifiannell. Byddwch wedi edrych ar ddulliau lluosi rhifau cyfan a degolion [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] yn Sesiwn 1. Dangoswch eich atebion yn yr unedau sgwâr cywir.
Hyd | Lled | Arwynebedd mewn unedau sgwâr (centimetrau, metrau, cilometrau) |
---|---|---|
80 cm | 30 cm | |
7 m | 4 m | |
2.5 km | 2 km | |
5.5 m | 2.4 m |
Ateb
Hyd | Lled | Arwynebedd mewn unedau sgwâr (centimetrau, metrau, cilometrau) |
---|---|---|
80 cm | 30 cm | 2 400 cm2 |
7 m | 4 m | 28 m2 |
2.5 km | 2 km | 5 km2 |
5.5 m | 2.4 m | 13.2 m2 |
Awgrym: Defnyddiwch yr un unedau ar gyfer y ddwy ochr bob amser. Weithiau rhoddir hyd a lled y petryal mewn unedau gwahanol. Rhaid iddynt fod yn yr un uned cyn y gallwch gyfrifo’r arwynebedd, felly efallai y bydd angen ichi drosi un ochr i’r un unedau â’r ochr arall.
Enghraifft: Arwynebedd ryg
Faint o gefnyn sydd ei angen ar gyfer y ryg hwn?
Dull
I ganfod yr ateb, mae angen ichi weithio allan y lled wedi’i luosi â’r hyd.
90 cm × 3 m = arwynebedd
Yn gyntaf, mae angen ichi drosi’r lled i fetrau fel bod y ddwy ochr yn yr un unedau. Mae 90 cm yr un peth â 0.9 m, felly’r cyfrifiad yw:
0.9 × 3 = arwynebedd = 2.7 m2
Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol. Mae angen ichi wneud y cyfrifiadau heb gyfrifiannell, ond gallwch ailwirio’ch atebion ar gyfrifiannell os oes angen. Os oes angen eich atgoffa sut iluosi rhifau cyfan neu rifau degol heb gyfrifiannell, edrychwch nôl ar Sesiwn 1 yn gyntaf.
Cofiwch wirio a oes angen ichi drosi’r mesuriadau cyn cyfrifo’r arwynebedd.
Gweithgaredd 10: Canfod yr arwynebedd
Faint o len plastig sydd arnoch ei angen i orchuddio’r pwll hwn dros y gaeaf?
Bydd un bag o raean yn gorchuddio hanner metr sgwâr o’r llawr. Faint o fagiau fydd arnoch eu hangen i orchuddio’r dreif hwn?
Mae biolegydd yn astudio twf burum. Yn yr arwynebedd sampl a ddangosir mewn porffor isod, canfu’r biolegydd 80 burum. Beth fyddai’n mynd yn y lleoedd gwag ar ei thaflen cofnodi, yn lle’r marc cwestiwn?
Rhif yr arwynebedd sampl | 21 |
Dyddiad | 17 Hydref |
Cyfrif burum | 80 |
Dimensiynau’r sampl | ? cm × ? cm |
Arwynebedd y sampl | ? cm2 |
Burum/cm2 | ? |
Pa mor fawr yw’r darn hwn o dir coedwigaeth?
Ateb
Mae angen i’r llen plastig fod yn:
2.5 × 4 = 10 m2
Yn gyntaf, mae angen ichi weithio allan arwynebedd y dreif:
8 × 4 = 32 m2
Os yw pob bag yn gorchuddio hanner metr sgwâr, bydd arnoch angen dau fag ar gyfer pob metr sgwâr:
32 × 2 = 64 o fagiau
Yn gyntaf mae angen ichi newid y lled i gentimetrau. Mae 25 mm yr un peth â 2.5 cm. Yna gallwch weithio allan yr arwynebedd:
2.5 × 4 = 10 cm2
Mae 80 burum, felly nifer y burum ar bob centimetr sgwâr (burum/ cm2) yw:
80 ÷ 10 = 8 burum y cm2
Dylai’r daflen cofnodi edrych fel hyn:
Rhif yr arwynebedd sampl | 21 |
Dyddiad | 17 Hydref |
Cyfrif burum | 80 |
Dimensiynau’r sampl | 2.5 cm × 4 cm |
Arwynebedd y sampl | 10 cm2 |
Burum/cm2 | 8 |
Arwynebedd y tir coedwigaeth yw:
4.5 × 2 = 9 milltir sgwâr
Crynodeb
Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu sut i weithio allan arwynebedd siâp petryal.