14 Y camau nesaf
Efallai y byddwch eisiau datblygu’ch sgiliau mathemateg pob dydd ymhellach. Os felly, dylech edrych ar gwrs Mathemateg pob dydd 2, a fydd ar wefan OpenLearn cyn bo hir. Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle ichi edrych yn fwy manwl ar rai o’r topigau rydych wedi eu gweld yma, yn ogystal â chynnwys newydd fel cyfrifo cynhwysedd.
Os hoffech ennill cymhwyster mwy ffurfiol, ewch i un o’r canolfannau a restrir isod gyda’ch bathodyn OpenLearn. Bydd yn eich helpu i gael hyd i’r ffordd orau i gael cymhwyster Sgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn mathemateg, a fydd yn gwella’ch CV.
Coleg Cambria • https://www.cambria.ac.uk/ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] • 0300 30 30 007
Addysg Oedolion Cymru • https://www.adultlearning.wales/ • 03300 580845
Coleg Gwent • https://www.coleggwent.ac.uk/ • 01495 333777
Grŵp Colegau NPTC • https://www.nptcgroup.ac.uk/