4 Siartiau cylch
Lluniau mathemateg yw siartiau, yn y bôn. Mae dau fath o siartiau: siartiau bar, y byddwch yn edrych arnynt yn yr adran nesaf, a siartiau cylch.
Mae siartiau cylch yn ffordd glir o gyflwyno data, ond gallan nhw fod yn anodd eu lluniadu ac mae’r cyfrifiadau mae eu hangen i’w creu yn gallu bod yn gymhleth.
Cylch yw siart cylch, wedi’i rannu’n ddarnau. Mae meintiau’r darnau hyn yn cynrychioli’r data. Rhaid i siartiau cylch gynnwys teitl ac allwedd sy’n esbonio beth mae pob darn yn ei olygu.
Enghraifft: Operâu sebon
Sut fyddech chi’n cyflwyno gwybodaeth fel siart cylch? Gwyliwch y fideo canlynol i gael gwybod.

Crynodeb o’r dull
Canfyddwch beth y bydd y cylch cyfan yn ei gynrychioli – hwn yw cyfanswm eich categorïau wedi’u hadio at ei gilydd.
Rhannwch 360 (maint y cylch mewn graddau) â’r cyfanswm hwn i ddweud wrthych chi beth yw gwerth un uned o’ch data. Defnyddiwch gyfrifiannell os oes angen!
Lluoswch swm yr un uned hon â maint pob categori.
Mae hyn yn rhoi’r maint y dylai pob segment fod (mewn graddau).
Lluniadwch gylch a thynnwch linell o ganol y cylch i’r top.
Gan ddechrau’r o’r llinell hon, defnyddiwch onglydd i fesur a lluniadu pob darn.
Labelwch y darnau, neu defnyddiwch allwedd i ddangos beth mae pob segment yn ei gynrychioli.
Rhowch deitl i’ch siart cylch.
Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol. Os byddwch yn cael anhawster, ewch yn ôl i’r crynodeb o’r dull uchod. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.
Gweithgaredd 10: Creu siart cylch
Cyfrifwch yr atebion i’r problemau canlynol heb ddefnyddio cyfrifiannell. Gallwch ail-wirio’ch atebion gyda chyfrifiannell os oes angen. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.
Mewn arolwg, gofynnwyd i 18 o bobl beth oedd eu hoff anifail anwes. Roedd eu hatebion fel a ganlyn:
Anifail | Nifer y bobl |
---|---|
Cath | 5 |
Ci | 6 |
Cwningen | 4 |
Aderyn | 1 |
Pysgodyn | 2 |
Lluniadwch siart cylch i gynrychioli’r wybodaeth hon.
Ateb
I ganfod sawl gradd sy’n cynrychioli pob anifail, rhaid ichi wneud y cyfrifiad canlynol:
360 ÷ 18 = 20
Felly, caiff pob anifail ei gynrychioli gan 20°. Yna gallwn gyfrifo maint pob darn:
Anifail | Nifer y bobl | Ongl |
---|---|---|
Cath | 5 | 5 × 20° = 100° |
Ci | 6 | 6 × 20° = 120° |
Cwningen | 4 | 4 × 20° = 80° |
Aderyn | 1 | 1 × 20° = 20° |
Pysgodyn | 2 | 2 × 20° = 40° |
Fel gwiriad, gallwch wneud yn siŵr bod graddau pob darn yn adio i 360°:
100° + 120° + 80° + 20° + 40° = 360°
O’r mesuriadau hyn, dylech greu siart cylch fel a ganlyn:
Mae Bill yn cadw cofnod o sut mae’n treulio ei amser mewn diwrnod arferol. Lluniadwch siart cylch i gynrychioli’r wybodaeth hon:
Gweithgaredd | Amser a dreulir |
---|---|
Cysgu | 8 awr |
Coleg | 7 awr |
Bwyta | 1 awr |
Cyfryngau cymdeithasol | 5 awr |
Teithio | 2 awr |
Campfa | 1 awr |
Ateb
Mae’r amser a dreulir ar weithgareddau yn adio i 24 awr – fel y byddech yn disgwyl! I ganfod sawl gradd sy’n cynrychioli pob awr, rhaid ichi wneud y cyfrifiad hwn:
360 ÷ 24 = 15
Felly, caiff pob awr ei chynrychioli gan 15°. Yna gallwn gyfrifo maint pob darn:
Gweithgaredd | Amser a dreulir | Ongl |
---|---|---|
Cysgu | 8 awr | 8 × 15 = 120 |
Coleg | 7 awr | 7 × 15 = 105 |
Bwyta | 1 awr | 1 × 15 = 15 |
Cyfryngau cymdeithasol | 5 awr | 5 × 15 = 75 |
Teithio | 2 awr | 2 × 15 = 30 |
Campfa | 1 awr | 1 × 15 = 15 |
Gallwch wirio’r ffigurau hyn trwy wneud yn siŵr bod y graddau ar gyfer pob darn yn adio i 360°:
120° + 105° + 15° + 75° + 30° + 15 = 360°
Gan ddefnyddio’r gwerthoedd hyn, nawr gallwch luniadu’ch siart cylch. Peidiwch ag anghofio ychwanegu teitl ac allwedd. O’r mesuriadau hyn, dylai’ch siart cylch edrych fel hyn:
Mae tiwtor yn cofnodi canlyniadau prawf ar gyfer dosbarth:
Gradd | Nifer y myfyrwyr |
---|---|
A | 10 |
B | 13 |
C | 7 |
D | 4 |
E | 2 |
Lluniadwch siart cylch i ddangos dadansoddiad o’r canlyniadau.
Ateb
Cyfanswm nifer y myfyrwyr yw 36. Er mwyn canfod sawl gradd sy’n cynrychioli pob myfyriwr, rhaid ichi wneud y cyfrifiad hwn:
360 ÷ 36 = 10
Felly, caiff pob myfyriwr ei gynrychioli gan 10°. Yna gallwn gyfrifo maint pob darn:
Gradd | Nifer y myfyrwyr | Ongl |
---|---|---|
A | 10 | 10 × 10 = 100 |
B | 13 | 13 × 10 = 130 |
C | 7 | 7 × 10 = 70 |
D | 4 | 4 × 10 = 40 |
E | 2 | 2 × 10 = 20 |
Gan ddefnyddio’r gwerthoedd hyn, nawr gallwch luniadu’ch siart cylch, a ddylai edrych fel hyn:
Crynodeb
Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu sut i gyflwyno data mewn siartiau cylch.