Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

9 Canfod yr amrediad

Rydym yn sôn am ‘amrediad’ mewn bywyd go iawn yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • Bydd gan ysgolion amrediad o oedrannau plant.

  • Bydd gan gwmnïau weithwyr sy’n ennill amrediad o gyflogau.

  • Mae archfarchnadoedd yn gwerthu nwyddau am amrediad o brisiau.

Y peth cyntaf i’w wneud wrth ganfod amrediadau yw canfod y gwerth isaf a’r gwerth uchaf yn eich set ddata. Yr amrediad yw un rhif sy’n dweud wrthych chi beth yw’r gwahaniaeth rhwng y gwerth uchaf a’r gwerth isaf.

I’ch helpu i weithio allan yr amrediad:

  • Os nad yw’ch set ddata’n rhy fawr, y peth gorau i’w wneud yw rhoi’r gwerthoedd mewn trefn rifiadol (lleiaf yn gyntaf).

  • Wrth ichi fynd trwy’r set ddata, ticiwch y rhifau neu eu croesi allan wrth ichi eu rhoi mewn trefn, fel nad ydych yn cyfrif yr un rhif dwywaith neu’n methu un yn gyfan gwbl:

Described image
Ffigur 23: Enghraifft o set ddata

Pan fydd gennych y gwerthoedd mwyaf a lleiaf, mae’n rhaid ichi dynnu’r lleiaf o’r mwyaf. Bydd hyn yn rhoi’r amrediad ichi.

Mae’r amrediad yn mesur gwasgariad set ddata. Mae’n bwysig oherwydd mae’n gallu dweud wrthych chi pa mor amrywiol yw eich data (neu beidio).

Er enghraifft, cymerwch oedrannau aelodau clwb garddio. Os mai 40 oed yw oedran cyfartalog yr aelodau, nid yw hyn yn dweud llawer wrthych chi am y bobl yn y clwb.

  • Os mai deng mlynedd oedd gwasgariad yr oedrannau, rydych chi’n gwybod bod pob aelod naill ai yn ei dridegau neu ei bedwardegau.

  • Ond os mai 70 o flynyddoedd oedd y gwasgariad, byddai pobl yn eu harddegau a phensiynwyr yn perthyn i’r clwb.

Felly mae’r amrediad yn rhoi mwy o wybodaeth ichi am set ddata.

Cofiwch pan rydych chi’n gweithio allan yr amrediad, fod yn rhaid ichi gynnwys yr unedau rydych chi’n gweithio ynddynt. Felly os ydych yn ymdrin ag oedrannau, byddwch fel arfer yn siarad am flynyddoedd, felly bydd eich amrediad mewn blynyddoedd.

Enghraifft: Amrediad oedran

Mae gan Barry bedwar o blant. Mae Sophie yn 7 oed, Karen yn 4, Max yn 12 oed a Jason yn 10.

Beth yw’r amrediad?

Dull

Dyma’r set ddata:

  • 7        4        12        10

Dewch inni roi’r rhifau yn eu trefn yn gyntaf:

  • 4        7        10        12

O wneud hyn, mae’n hawdd gweld mai 4 yw’r rhif lleiaf a 12 yw’r rhif mwyaf.

I weithio allan yr amrediad, tynnwch y gwerth lleiaf o’r gwerth mwyaf:

  • Amrediad = 12 – 4 = 8 mlynedd

(Peidiwch ag anghofio cynnwys yr unedau, sef blynyddoedd yn yr achos hwn.)

Crynodeb o’r dull

  • Ysgrifennwch y rhifau yn eu trefn rifiadol (lleiaf yn gyntaf).

  • Canfyddwch y rhif lleiaf a’r rhif mwyaf.

  • Tynnwch y rhif lleiaf o’r rhif mwyaf i ganfod yr amrediad ar gyfer eich data.

  • Peidiwch ag anghofio nodi pa unedau rydych chi’n gweithio ynddynt (e.e. oriau, goliau, pobl ac ati).

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Gweithgaredd 17: Canfod amrediadau

Cyfrifwch yr atebion i’r problemau canlynol heb ddefnyddio cyfrifiannell. Gallwch ail-wirio’ch atebion gyda chyfrifiannell os oes angen. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

  1. Canfyddwch yr amrediadau ar gyfer y setiau data canlynol:

    • a.1, 6, 7, 10

    • b.7, 6, 2, 8, 10, 3, 11

    • c.5, 4, 2, 8, 9, 11, 4, 12, 7

    • d.5, 15, 6, 9, 12, 4, 2, 8, 1, 14

  2. Mewn arolwg ar hap yn Ninbych-y-pysgod, roedd oedrannau 20 o bobl fel a ganlyn:

6118423732
1525527423
4941583142
2127654735
  •  

    • a.Ysgrifennwch y set ddata mewn trefn, gyda’r rhif lleiaf yn gyntaf.

    • b.Beth yw’r oedran lleiaf?

    • c.Beth yw’r oedran mwyaf?

    • d.Beth yw’r amrediad?

  1. Beth yw’r amrediad tymereddau yn y tabl canlynol?

DyddLlunMawrthMercherIauGwenerSadwrnSul
TywyddEicon cwmwl a haul.Eicon cwmwl a haul.Eicon cwmwl.Eicon glaw.Eicon cwmwl a haul.Eicon haul.Eicon mellt.
Tymheredd (°C)21201719242718
Dyodiad (%)1525407020586

Ateb

Nawr gwiriwch eich atebion:

  1. Mae’r amrediadau fel a ganlyn:

    • a.10 – 1 = 9

    • b.11 – 2 = 9

    • c.12 – 2 = 10

    • d.15 – 1 = 14

  2. Mae’r atebion fel a ganlyn:

    • a.Dyma’r set ddata yn ei threfn, gyda’r rhif lleiaf yn gyntaf:

1518212325
2731323537
4142424749
5258616574
  •  

    • b.Yr oedran isaf yw 15.

    • c.Yr oedran uchaf yw 74.

    • d.Yr amrediad yw 74 – 15 = 59 o flynyddoedd. Os ydych wedi ysgrifennu ‘15 i 74’, mae’n anghywir. Un rhif yw’r amrediad. Mae angen ichi weithio allan y gwahaniaeth.

  1. Y tymheredd uchaf yw 27°C a’r tymheredd isaf yw 17°C, felly’r amrediad tymheredd yw 10°C.

Crynodeb

Yn yr adran hon, rydych wedi:

  • dysgu bod yr amrediad yn mesur gwasgariad set ddata

  • deall mai’r amrediad yw’r gwahaniaeth rhwng y gwerth lleiaf a’r gwerth mwyaf mewn set ddata.