Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.2 Tynnu llun ffracsiynau

Enghraifft: Tynnu llun o’r ffracsiynau

Os oes angen ichi gymharu un ffracsiwn ag un arall, gall fod yn ddefnyddiol lluniadu’r rhannau ffracsiynol.

Edrychwch ar y rhifau cymysg isod. (Mae rhif cymysg yn cyfuno rhif cyfan a ffracsiwn.) Dyweder eich bod eisiau rhoi’r symiau hyn yn nhrefn eu maint, gyda’r lleiaf yn gyntaf:

2 one divided by two , 3 one divided by four , 1 one divided by three

Dull

Er mwyn ateb hwn, gallech edrych ar y rhifau cyfan yn gyntaf, ac yna y rhannau ffracsiynol. Pe baech chi’n lluniadu’r rhain, gallen nhw edrych fel hyn:

Described image
Ffigur 16 Lluniadu’r ffracsiynau

Felly’r drefn gywir fyddai:

1 one divided by three , 2 one divided by two , 3 one divided by four

Defnyddiwch yr enghraifft uchod i’ch helpu gyda’r gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Gweithgaredd 20: Rhoi ffracsiynau mewn trefn

  1. Rhowch y ffracsiynau hyn yn nhrefn eu maint, gyda’r lleiaf yn gyntaf:
  • 5 one divided by four , 6 one divided by five , 2 one divided by two
  1. Rhowch y ffracsiynau hyn yn nhrefn eu maint, gyda’r lleiaf yn gyntaf:
  • 2 two divided by five , 1 nine divided by 10 , 2 one divided by two

Ateb

  1. Y drefn gywir yw:
  • 2 one divided by two , 5 one divided by four , 6 one divided by five
  • Yn yr achos hwn, er bod one divided by two yn fwy na one divided by four a one divided by four yn fwy na one divided by five , mae angen ichi edrych ar y rhifau cyfan yn gyntaf, yna y ffracsiynau. Mae’r diagram yn dangos hyn yn fwy clir:
Described image
Ffigur 17: Tynnu llun o’r ffracsiynau
  1. Y drefn gywir fyddai:
  • 1 nine divided by 10 , 2 two divided by five , 2 one divided by two
  • Gan edrych ar y rhifau cyfan, 1 nine divided by 10 fyddai’r lleiaf oherwydd bod y ddau rif cymysg arall yn fwy na 2. I weld p’un yw’r mwyaf o 2 two divided by five neu 2 one divided by two , mae angen ichi gymharu’r rhan ffracsiwn. P’un sy’n fwy: two divided by five neu one divided by two ?
  • • I weithio hyn allan, gallech luniadu lluniau fel uchod, neu gallech ddefnyddio’r dull yr edrychon ni arno yn gynharach, lle rydych yn newid i ffracsiynau cywerth – rhifau gwaelod y ffracsiynau yw 5 a 2, a lluosrif cyffredin lleiaf 5 a 2 yw 10:
  • 5 × 2 = 10
  • 2 × 5 = 10
  • Beth bynnag a wnewch i’r gwaelod, gwnewch yr un peth i’r top:
  • Os ydych chi’n lluosi’r rhifau top a gwaelod yn two divided by five â 2, rydych yn gwneud four divided by 10 .
  • Os ydych chi’n lluosi’r rhifau top a gwaelod yn one divided by two â 5, rydych yn gwneud five divided by 10 .
  • Mae four divided by 10 ( two divided by five ) yn llai na five divided by 10 ( one divided by two ), felly mae 2 two divided by five yn llai na 2 one divided by two .