5.2 Canfod canrannau gan ddefnyddio cyfrifiannell
Mae yna ffyrdd gwahanol o weithio allan canrannau ar gyfrifiannell. Gallwch weithio allan unrhyw ganran ar gyfrifiannell trwy rannu â 100 yn gyntaf (i ganfod 1%) ac yna lluosi’r swm â’r ganran mae arnoch ei hangen.
Os gofynnir ichi gyfrifo 20% o 80, gallech wneud fel a ganlyn:
80 ÷ 100 = 0.8
0.8 × 20 = 16
Fodd bynnag, yn aml bydd gan y rhan fwyaf o gyfrifianellau (gan gynnwys rhai ar ffonau symudol) fotwm canrannau. Mae’r botwm canrannau’n edrych fel hyn:
Er mwyn defnyddio’r botwm yn llwyddiannus wrth gyfrifo canrannau, byddech yn mewnbynnu’r swm i’ch cyfrifiannell fel a ganlyn.
Os gofynnir ichi ganfod 20% o 80, ar eich cyfrifiannell byddech yn mewnbynnu:
80 × 20%
Byddai hyn yn rhoi ichi’r ateb canlynol:
80 × 20% = 16
Os gofynnir ichi ganfod 20% o 80, ar eich cyfrifiannell byddech yn mewnbynnu:
20% × 80
Byddai hyn yn rhoi ichi’r ateb canlynol:
20% × 80 = 16
Gall cyfrifianellau gwahanol weithio mewn ffyrdd gwahanol, felly mae angen ichi ymgyfarwyddo â sut i ddefnyddio’r botwm % ar eich cyfrifiannell chi.
Crynodeb
Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu sut i ddatrys problemau gan ddefnyddio canrannau, a sut i gyfrifo cynnydd a lleihad canrannol.