Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Pwysigrwydd sgiliau rhyngbersonol
Pwysigrwydd sgiliau rhyngbersonol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Cydberthnasau

Mewn gwirionedd, mae neges fel yr un y cyfeiriwyd ati uchod yn un o blith sawl neges sy'n ffurfio rhan o'r cydberthnasau parhaus sydd gennym â'r bobl rydym yn gweithio gyda hwy. Gall sut rydym yn cyd-dynnu â'n gilydd gael effaith sylweddol ar y ffordd y caiff neges benodol ei dehongli, a'r effeithiau dilynol y gallai hynny eu cael ar eu cymhelliant neu eu ysbryd.

Y syniad nesaf y byddwn yn ei gyflwyno yw fframwaith ar gyfer asesu sut y caiff cydberthnasau eu creu a sut y maent yn esblygu, yn seiliedig ar gyflwr meddwl y rheini sy'n rhan o'r cydberthnasau hynny. Mae'n seiliedig ar waith y seicolegydd, Eric Berne (Ffigur 2), o syniad a gynigiwyd yng nghanol y 1960au. Dadleuodd Berne (1966) fod cyflwr meddwl pawb yn newid - neu fod gan bawb 'ego gyflyrau' fel y cyfeiriodd atynt - yn seiliedig ar eu hamgylchiadau ar y pryd a'r ymatebion y maent wedi'u datblygu dros gyfnod o amser i'r amgylchiadau hyn. Mae tri ego gyflwr sylfaenol: rhiant, oedolyn a phlentyn.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 2 Eric Berne

Mae cyflwr rhiant, fel yr awgryma'r enw, yn gysylltiedig ag ymddygiad nodweddiadol rhiant tuag at ei blant. Gallai fod yn awdurdodol, yn rhagnodol argymhellol neu'n geryddol, megis 'Paid â gwneud hynny', 'Gwna fel hyn' neu 'Mae hynny'n anghywir' - y gellid ei ddisgrifio fel cyflwr rhiant beirniadol. Fel arall, gallai fod yn gydymdeimladol, yn amddiffynnol neu'n gofleidiol, y gellid ei ddisgrifio fel cyflwr rhiant sy'n meithrin.

Caiff cyflwr oedolyn ei gysylltu ag ymddygiad tawel, rhesymegol a gwrthrychol lle mae'r unigolion yn canolbwyntio ar feithrin gwell dealltwriaeth ffeithiol o sefyllfa. Bydd rhywun yn y cyflwr meddwl hwn yn dueddol o ofyn cwestiynau a chadarnhau ei fod yn deall gyda'r bobl eraill y mae'n cyfathrebu â hwy. Bydd yn ymddangos yn ystyrlon, yn ymholgar ac yn gytbwys.

Caiff cyflwr plentyn, unwaith eto fel yr awgryma'r enw, ei gysylltu ag amrywiaeth o fathau o ymddygiad y gellid eu hystyried yn blentynaidd. Y tro hwn, ceir tri math posibl o gyflwr plentyn: cyflwr plentyn rhydd, a gaiff ei gysylltu â chreadigrwydd, gweithredu'n ddigymell a hwyl; cyflwr plentyn gwrthryfelgar, a gaiff ei gysylltu â gelyniaeth, herfeidd-dra a dadl; a chyflwr plentyn wedi addasu, sy'n dueddol o ddangos arwyddion o gydymffurfiaeth, ond a all hefyd arwain at ffordd fwy cyfryngol o gael gwobr.

Gall fod yn hawdd neidio i'r casgliad bod rhai o'r cyflyrau meddwl hyn yn gywir a bod eraill yn anghywir, ond nid dyma oedd bwriad Berne. Mae prif negeseuon ei waith fel a ganlyn:

  • Ar unrhyw adeg benodol, mae pob un ohonom yn un o'r cyflyrau meddwl a amlinellir. Weithiau, gellir symud o un cyflwr i un arall yn gyflym iawn.
  • Bydd un person yn dueddol o ymateb i gyflwr meddwl person arall. Er enghraifft, os bydd rheolwr yn mynd at aelod o staff fel rhiant beirniadol, bydd yr aelod o staff yn dueddol o fabwysiadu cyflwr meddwl plentyn, gan efallai ddod yn amddiffynnol, yn ddibynnol neu'n ddadleuol.
  • Gall ymwybyddiaeth o'n cyflwr meddwl ni a chyflwr meddwl y bobl eraill helpu i sicrhau cyfathrebu mwy effeithiol a meithrin cydberthnasau mwy cadarnhaol.