3 Rolau
Yn gymharol aml mewn sefyllfaoedd gwaith, gofynnir i ni weithio gyda grŵp o bobl nad ydym wedi cyfarfod â hwy o'r blaen ac nad oes gennym lawer iawn yn gyffredin â hwy, ar yr olwg gyntaf. Gellir gofyn i'r grŵp, y gellid ei labelu fel 'tîm', drefnu neu gynhyrchu rhywbeth y bydd rhai o'r aelodau yn gwybod mwy amdano nag eraill. Ar ôl cyfnod cychwynnol lletchwith efallai, bydd aelodau'r grŵp yn dechrau darganfod mwy am ei gilydd ac yn bwrw ati â'u tasg. Mae'n gymharol debygol y bydd pob un o'r aelodau wedyn yn dueddol o ymgartrefu i rôl benodol (neu ddechrau chwarae'r rôl honno) o fewn y grŵp yn seiliedig ar gymysgedd o'u sgiliau a'u nodweddion o ran cymeriad. Er enghraifft, gallai rhywun gynnig mynd i chwilio am wybodaeth hanfodol, gallai rhywun arall lunio amserlen, amserlen a rhestrau, tra y gallai rhywun arall ddechrau awgrymu ffyrdd gwahanol o fynd i'r afael â'r dasg. Yn anochel, bydd rhai yn cystadlu am rolau penodol, neu bydd gwrthdaro ymhlith yr aelodau hynny â blaenoriaethau gwahanol. Mae nifer o awduron rheoli wedi dadansoddi'r sefyllfaoedd hyn ac mae rhai ohonynt wedi datblygu cyfresi o ddisgrifiadau ar gyfer y rolau nodweddiadol y mae pobl yn eu chwarae o fewn y sefyllfaoedd hynny. Datblygwyd un o'r cyfresi a ddyfynnir amlaf gan academydd o'r DU, R. Meredith Belbin (1981) (Ffigur 3). Aeth ati i ddefnyddio'r fframwaith hwn yn llwyddiannus yn ei waith ymgynghori ar adeiladu timau ymhlith grwpiau o reolwyr. Er mwyn i grŵp ddod yn dîm cytbwys ac effeithiol, roedd o'r farn bod angen i bobl yn y grŵp chwarae wyth rôl rhyngddynt. Fe'u hamlinellir yn Nhabl 1.
Math o rôl | Disgrifiad | Nodweddion |
Gweithredwr | Yn hoffi bwrw ymlaen â thasgau'r tîm a threfnu manylion ymarferol | Cydwybodol, ymarferol ac eithaf gofalus; rhagweladwy ac weithiau'n anhyblyg |
Cydlynydd | Yn annog aelodau'r tîm i roi eu barn ond yn parhau i lywio'r tîm i'r cyfeiriad cywir | Digynnwrf, hunan hyderus a chefnogol; nid yw'n ymhél â manylion |
Siapiwr | Yn darparu cymhelliant ac egni i waith y tîm ond gall geisio dylanwadu arno gyda'i farn ei hun | Rhadlon, dynamig, heriol; diamynedd ac weithiau'n bryfoclyd |
Planiad | Yn cynnig llawer o syniadau creadigol neu wybodaeth arbenigol i'r dasg | Meddwl yn greadigol, yn aml yn anuniongred; yn hoffi gweithio ar ei ben ei hun a ddim yn berson ymarferol iawn |
Ymchwilydd adnoddau | Yn darparu llawer o wybodaeth ac yn gallu cynnig llawer o gysylltiadau defnyddiol | Cyfathrebu'n dda, brwdfrydig a chwilfrydig; diflasu'n hawdd |
Monitor/Gwerthuswr | Yn hoffi arsylwi a mesur llwyddiant y tîm | Doeth a phenderfynol; eithaf anemosiynol ar brydiau |
Gweithiwr tîm | Yn gwneud pethau i gynnal ysbryd neu forâl y tîm | Yn gymdeithasol, sensitif ac ymatebol; weithiau yn amhendant |
Cyflawnwr | Yn gwneud yn siŵr bod pob tasg wedi'i chwblhau'n llawn | Manwl, trefnus a chydwybodol; gall fod yn orbryderus a chaiff drafferth i 'adael fynd' |
Troednodyn
Ffynhonnell: addaswyd o Belbin, 1981Mae'n bwysig cofio nad yw rolau Belbin yn rhywbeth y caiff unrhyw un ei eni iddynt. Nid ydynt yn golygu os byddwch yn adnabod un neu fwy o'r nodweddion ynddoch chi'ch hun neu eraill, bod yn rhaid i chi ymgymryd â rôl benodol. Mae'r rolau fel rolau actio yn yr ystyr y gellir eu dewis a'u chwarae. Yn wir, mewn llawer o grwpiau - sy'n cynnwys llai nag wyth person - bydd angen i rai aelodau chwarae mwy nag un rôl, gan newid rhwng rolau yn ôl anghenion y tîm a'r dasg. Mae newid rolau o bryd i'w gilydd nid yn unig yn bosibl, weithiau mae'n angenrheidiol wrth i ni newid swyddi a thimau. Wedi dweud hyn, yn gyffredinol, mae gan y rhan fwyaf o bobl ddewis rôl gyntaf, sef y rôl y maent yn teimlo'n fwyaf cyfforddus yn ei chwarae. O'r disgrifiadau a'r nodweddion yn Nhabl 1, a allwch nodi pa rôl y byddech yn dueddol o deimlo'n fwyaf cyfforddus â hi? A allech chwarae unrhyw un o'r rolau eraill heb ormod o broblem?
Gweithgaredd 1
Mae'r gweithgaredd hwn yn gofyn i chi fyfyrio'n onest ar eich profiadau eich hun. Yn arbennig, mae'n gofyn i chi ystyried sut y gall rhai o'r syniadau rydych newydd eu darllen am sgiliau rhyngbersonol eich helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o'ch profiadau.
Meddyliwch am brosiect neu weithgaredd lle y gwnaethoch weithio fel rhan o grŵp neu dîm. Wedyn, cwblhewch y tasgau canlynol:
- Ysgrifennwch baragraff byr heb fod yn fwy na thair brawddeg yn disgrifio'r prosiect neu'r gweithgaredd yn gryno.
- Ysgrifennwch baragraff byr arall heb fod yn fwy na thair brawddeg gan nodi o'r disgrifiadau a'r nodweddion yn Nhabl 1 pa rôl/rolau y gwnaethoch ei/eu chwarae yn y gweithgaredd? Cofiwch mewn grwpiau bach fod yn rhaid i rai chwarae mwy nag un rôl.
- Ysgrifennwch baragraff byr arall heb fod yn fwy na phedair brawddeg, gan nodi pa mor effeithiol oedd y cyfathrebu rhwng aelodau'r grŵp neu'r tîm a nodwch unrhyw rwystrau. Cofiwch yr hyn a ddarllenwyd gennych am y broses gyfathrebu a chydberthnasau rhyngbersonol wrth gyflawni'r dasg hon.
Gadael sylw
Wrth gwblhau Cwestiwn 2, mae'n bosibl y byddwch wedi edrych ar y blychau 'Nodweddion' yn Nhabl 1 er mwyn rhoi syniad i chi o'r math o rôl y gallech fod wedi'i chwarae. Pa rai o'r nodweddion sy'n cyfateb orau i'ch nodweddion chi? Mae'n debygol y bydd eich nodweddion yn ymddangos mewn mwy nag un blwch, sy'n nodi o bosibl eich bod wedi ymgymryd â mwy nag un rôl. Beth am aelodau eraill y grŵp neu'r tîm? A oes unrhyw un arall rydych yn ei adnabod yn glir o'r disgrifiadau a'r nodweddion?
Ar gyfer Cwestiwn 3, mae'n bosibl y byddwch wedi cytuno'n gyffredinol eich bod wedi cyfathrebu'n dda, neu y byddwch wedi cofio problemau penodol. Y peth pwysig yw cydnabod pam roedd y cyfathrebu yn effeithiol neu pam nad oedd yn effeithiol yn eich barn chi, yn seiliedig ar yr hyn a ddarllenwyd gennych.