Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Pwysigrwydd sgiliau rhyngbersonol
Pwysigrwydd sgiliau rhyngbersonol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4 Cyflenwad a galw: Stori Kiran

Mae'r chwe mis cyntaf wedi hedfan. Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda'r ddwy neu dair ysgol a ddewiswyd gennyf yn dilyn fy sgwrs gyda ffrind sy'n fyfyriwr. Rwy'n teimlo fy mod wedi gwneud enw da i fi fy hun am fod yn ddibynadwy ac am sicrhau bod y dosbarthiadau yn bwrw ati gyda'u gwaith. Mae’r teulu yn ymdopi'n dda â mam sy'n mynd allan i weithio. Mae Akaash yn dweud wrth ei ffrindiau fod ei fam yn athrawes yn ogystal â mam ac mae Rohit bellach yn arbenigwr wrth ddefnyddio'r meicrodon!

Rhaid i mi gyfaddef mai Ysgol Longheath yw fy hoff ysgol ac un o'r ysgolion rwy'n ymweld â hi fwyaf rheolaidd. Mae Mrs Jackson wedi gwneud gwaith arbennig ers i'r ysgol gael adroddiad Ofsted ofnadwy, tua phedair blynedd yn ôl erbyn hyn. Mae llawer o rieni yn awyddus i'w plant fynd i'r ysgol honno nawr, er nad yw wedi'i lleoli yn ardal orau Castletown. Mae'n rheoli'r ysgol yn dda iawn ac yn annog ei staff i ddatblygu fel rheolwyr hefyd.

Pan oeddwn yn Longheath ddiwethaf, gofynnodd Mrs Jackson i mi a oeddwn gwybod yr ysgol ar fin hysbysebu swydd ran amser barhaol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Gofynnodd i mi hefyd a fyddwn i'n ystyried gwneud cais. Rydych yn fy adnabod i, dywedais y byddai'n rhaid i mi fynd adref a meddwl am y peth. Ond, ar ôl trafod gyda Rohit, Mi wnes gais - a chynigiwyd y swydd i mi.

Buan y Sylweddolais yn fuan y byddai bod yn aelod parhaol o staff yn wahanol iawn i 'ymddangos' fel athrawes gyflenwi. Roedd pedwar athro arall yn ymwneud â'r un maes â fi, gan gynnwys Anna, Pennaeth yr Adran. Bu'r rhan fwyaf o'n cyswllt â'r tîm hyd yn hyn drwy Anna, sy'n gydwybodol iawn ond braidd yn ddi-drefn ac yn ofidiwr. Mae'r gweddill, fel y gwelais, yn wahanol iawn i'w gilydd. Mae Julie, sy'n llawn syniadau a brwdfrydedd at ei swydd ond sydd fel petai ganddi ddiddordeb newydd bob tro y byddwch yn siarad â hi. Wedyn mae Edith, sy'n ymarferol iawn ac yn gymwynasgar ond sy'n tueddu i feddu ar farn gaeth. Ac yn olaf mae Ray, yr athro rhan amser arall, sy'n sensitif iawn a chanddo lawer o amser i'w roi i bobl - i'r fath raddau fel ei fod yn dueddol o fod yn hwyr i bopeth. Rhaid i mi gyfaddef, dwi'n meddwl weithiau tybed sut y maent yn cyd-dynnu.

Gweithgaredd 2 

Ysgrifennwch baragraff byr o bedair brawddeg o leiaf i ateb y cwestiwn canlynol:

Pe byddai Kiran yn dod atoch am gyngor am weithio mewn tîm, pa syniadau o'r uned hon y gallech eu defnyddio i'w helpu?

Gadael sylw

Mae'r gweithgaredd hwn yn ddefnyddiol ar gyfer adolygu eich dealltwriaeth o'r syniadau yn yr uned hon am sgiliau rhyngbersonol. Er enghraifft, gallai Kiran feithrin gwell dealltwriaeth o'r tîm y mae bellach yn rhan ohono a'r rôl/rolau y gallai ei/eu chwarae yn y tîm hwnnw, gan ddefnyddio diffiniad Belbin o rolau tîm. Fel arall, gallai ddechrau meithrin gwell dealltwriaeth o'r cydberthnasau y mae'r grŵp eisoes wedi'u meithrin ymhlith ei gilydd gan ddefnyddio syniadau Berne am ego gyflyrau. Mae'n bosibl y bydd rhai cliwiau am rolau a chydberthnasau aelodau'r tîm ym mharagraff olaf yr astudiaeth achos.

Gellir dod o hyd i ragor o gyrsiau a chymwysterau yn Gymraeg yma.