Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sesiwn 3: Benthyca arian

Cyflwyniad

Mae Martin Lewis yn cyflwyno Sesiwn 3 ar fenthyca, gan archwilio’r rhesymau da a gwael sydd gan bobl dros fynd i ddyled.

Download this video clip.Video player: Fideo 1 Cyflwyniad i Sesiwn 3
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 1 Cyflwyniad i Sesiwn 3
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gwrandewch ar neges Martin Lewis yn Gymraeg isod.

Download this audio clip.Audio player: Clip Sain 1 Cyflwyniad i Sesiwn 3
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Clip Sain 1 Cyflwyniad i Sesiwn 3
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Er na ddylid byth benthyca’n ysgafn, ac y dylai bob amser fod ar gyfer rhywbeth fforddiadwy y lluniwyd cyllideb ar ei gyfer, os yw pobl yn gallu rheoli eu dyledion yn synhwyrol ac ad-dalu arian o leiaf ar amser neu, yn well fyth, cyn gynted ag y bo modd, yna nid oes angen mynd i banig. Wedi’r cyfan, ni all y rhan fwyaf o bobl fforddio prynu cartref neu gar gan dalu ar eu hunion, felly mae angen iddynt fenthyg arian parod, sydd yn ei dro’n helpu i roi hwb i’r gwahanol farchnadoedd.

Yn y UK yn 2022, roedd dyled bersonol yn gyfanswm anhygoel o £1.8 triliwn. Mae hynny’n £1,800 biliwn o bunnoedd o arian a fenthyciwyd sy’n ddyledus gan aelwydydd yn y DU.

Y newyddion da yw nad yw benthyca yn achosi problemau ariannol i lawer o bobl. Ond i rai pobl, mae ad-dalu arian a fenthyciwyd yn broblem.

Eto, ni all rhai pobl fenthyca ar gost resymol oherwydd eu statws credyd gwael. Gallai eu hamgylchiadau, sy’n aml yn gysylltiedig â bod ar incwm isel, eu gorfodi i ddefnyddio ffynonellau benthyca drud megis credyd tymor byr cost uchel – a gallai cost benthyca fel hyn olygu bod eu hanawsterau ariannol yn gwaethygu.

Mae’r sesiwn hon o’r cwrs yn canolbwyntio ar yr hyn y mae angen i chi ei wybod er mwyn gallu benthyca’n effeithiol ar y telerau gorau, ac ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud i sicrhau bod benthyg arian yn ddefnyddiol, yn hytrach nag yn ffynhonnell hunllefau ariannol.

Byddwch hefyd yn gweld bod y gallu i fenthyca a chost benthyca’n cael eu pennu gan bethau y mae gennych rywfaint o reolaeth drostynt (megis eich sefyllfa ariannol a’ch hanes credyd, sy’n effeithio ar ba mor ddeniadol ydych fel cwsmer benthyca) a phethau na allwch eu rheoli (fel lefel bresennol cyfraddau llog).

Ar ôl y lefelau isaf erioed yn hanesyddol yn ystod pandemig COVID-19, mae cyfraddau llog yma yn y DU ac mewn gwledydd eraill dros y byd i gyd wedi cynyddu'n gyflym ers 2021 mewn ymateb i gynnydd sydyn yn chwyddiant prisiau. Mae hyn yn ei gwneud hi'n fwy costus cael benthyg arian ac, felly, yn fwy pwysig gwneud penderfyniadau benthyca effeithiol.

Ar ôl astudio'r sesiwn hon, dylech allu gwneud y canlynol:

  • deall gan bwy y gallwch fenthyca a pha gynhyrchion sydd ar gael
  • deall beth sy’n effeithio ar eich sgôr credyd a beth allwch chi ei wneud i’w reoli
  • gwybod pa bryd y mae benthyca'n synhwyrol a phryd y mae'n fyrbwyll
  • deall beth sy’n pennu cost benthyca arian
  • deall cost gymharol gwahanol ffyrdd o fenthyca.

Mae’r Sesiwn hon yn un o gyfres sy’n creu cwrs Academi Arian MSE a bu’n bosibl ei wireddu drwy gyfraniadau ariannol a chynnwys gan MoneySavingExpert.com.