Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechreuwch y cwrs yma am ddim nawr. Crëwch gofrif a mewngofnodwch. Ar ôl o chi gwblhau cwrs byddwch yn derbyn datganiad cyfranogiad neu fathodyn digidol os oes un ar gael.

Cwrs am ddim

Academi Arian MSE

Sesiwn 2: Cyllidebu a threthi

Cyflwyniad

Download this video clip.Video player: Fideo 1 Cyflwyniad i Sesiwn 2
MARTIN LEWIS
Budgeting and taxation, both sound simple. Both are easy to get wrong. Let’s start with budgeting. Obviously, as a working person, you shouldn’t spend more than you, yeah, earn.
But when it comes to doing a budget, many people approach it the wrong way. Two big tips to start. First of all, don’t just look at one month’s finances. That will cause a lot of mistakes.
We don’t spend by the month. Sometimes we spend by the week, sometimes the month, sometimes the year. We might buy a new sofa every five to 10 years, and you have to factor that all in.
So when you’re doing the budget, get at least three months’ worth of bank and credit card statements, and go through them item by item. But don’t forget to factor in Christmas, 600 pounds a year, and your summer holiday, and those big one-offs. Put them all in there to get a true picture.
The next problem when it comes to budgeting is most people try and go big, when you should go small. What do I mean by that? Well, you might have the category motoring. What’s that, 100 pounds? No.
Don’t have a motoring category. You need to have petrol, car insurance, breakdown cover, MOT, replacement tyres, item by item. Do it small. Gives you greater accuracy, and means there’s a less of a chance of missing it.
Then, after all of that, you’re going to add up your expenditure, and hopefully it’ll be less than your income. If it isn’t, well, you’re overspending, and that leads to one of two things. You either build up debt, or you reduce your savings. And in most cases, you don’t want either.
So how do you then control your spending once you’ve got your budget? Now, the technique I use, I call it piggy banking. Some people call it jam jarring. It works like this. The big problem is when you look at your bank statement, it lies.
It doesn’t tell you what’s coming in and out. It’s just a snapshot of today’s money. So we need to make it tell the truth. And the way you do that is by having different categories of known spending.
Bills is an obvious one most people should have. And you’ll know how much to put away for your bills from your budget. But you could have clothes shopping, Christmas, summer holidays. And then each month, when your money comes in, you syphon it away in the right account.
We’ll stick with that 50 pounds a month for Christmas. Then when it comes to Christmas, you know how much you can spend on it without worry. When it comes to your summer holiday, if there’s 300 quid in there, you can spend 300 quid. If you want a 600 pound holiday, you know you can’t afford it. But it also now means your actual bank account, when you look at it, is telling you what you can truly afford to spend.
Now, taxation, it’s really important to understand what money the state is taking off you. Of course, tax is the cost of living in a legitimate, civil society. It’s what we pay for our membership, and the money’s then spread out to everybody, possibly redistributed.
You may be a beneficiary. You may not. But either way, understand how it works. And my emblematic example of that is your tax code. If you’re a working person or on a pension, each year you’ll be sent a tax code, something like 1250L. Now, most people get it, look at it, don’t know what it means, and forget it. But your tax code is what dictates to your employer or your pension company how much tax to take away from you. And do you know whose responsibility it is to get it right? Not the state’s, not your employer’s, yours.
So if your tax code’s wrong and you’ve been overpaying tax for years, meaning you’ve got too little income, you may be able to get it back, but you could have had a cash flow problem. If you’ve been underpaying tax for years, guess what? They’re going to ask you for more money once it’s discovered. You’re going to be upset.
How am I going to find the cash? I thought this was all right. Your tax code is your responsibility. This module is going to explain to you how taxation works. Don’t ignore it. It’s important.
End transcript: Fideo 1 Cyflwyniad i Sesiwn 2
Fideo 1 Cyflwyniad i Sesiwn 2
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gwrandewch ar neges Martin Lewis yn Gymraeg isod.

Download this audio clip.Audio player: Clip Sain 1 Cyflwyniad i Sesiwn 2
ADRODDWR:
Cyllidebu a threthu, mae’r ddau beth yn swnio’n syml. Ond mae’n hawdd cael y ddau beth yn anghywir. Beth am i ni ddechrau gyda chyllidebu? Yn amlwg, fel person sy’n gweithio, ddylech chi ddim gwario mwy nag ydych chi’n ei ennill.
Ond pan mae’n dod i gyllidebu, mae llawer o bobl yn mynd ati’n anghywir i wneud hynny. Dyma ddau gyngor pwysig i ddechrau. Yn gyntaf, peidiwch ag edrych ar gyllid un mis. Bydd hyn yn achosi llawer o gamgymeriadau.
Dydyn ni ddim yn gwario fesul mis. Weithiau rydyn ni’n gwario fesul wythnos, fesul mis neu fesul blwyddyn. Efallai y bydd rhywun yn prynu soffa newydd bob pump i ddeg mlynedd, ac mae’n rhaid i chi ystyried yr holl bethau hyn.
Felly, pan fyddwch chi’n llunio cyllideb, dylech chi gael tri mis o leiaf o ddatganiadau banc a chardiau credyd, a mynd drwyddyn nhw fesul eitem. Cofiwch ystyried y Nadolig, chwe chan punt y flwyddyn, eich gwyliau haf, ac eitemau mawr rydych chi’n eu prynu unwaith neu’n anaml iawn. Rhowch bob dim gyda’i gilydd i gael y darlun llawn.
Y broblem nesaf gyda chyllidebu yw bod y rhan fwyaf o bobl yn ceisio mynd yn fawr, pan ddylech chi fynd yn fach. Beth ydw i’n ei olygu wrth hynny? Wel, efallai y bydd gennych chi gategori ‘moduro’. Beth yw hwnnw, can punt? Na.
Peidiwch â chael categori ‘moduro’. Mae angen i chi nodi petrol, yswiriant car, yswiriant torri i lawr, MOT, teiars newydd ac ati, fesul eitem. Gwnewch y pethau bychain. Mae’n rhoi mwy o fanylder i chi, ac mae’n golygu bod eich bod yn llai tebygol o fethu rhywbeth.
Wedyn, ar ôl hyn i gyd, rydych chi’n mynd i gyfrifo cyfanswm eich gwariant, a gobeithio y bydd yn llai na’ch incwm. Os nad yw’n llai, rydych chi’n gwario gormod, ac mae hynny’n arwain at un o ddau beth. Rydych chi naill ai’n cronni dyled, neu’n lleihau eich cynilion. Yn y rhan fwyaf o achosion, dydych chi ddim eisiau gwneud y naill beth na'r llall.
Felly, sut ydych chi’n rheoli eich gwariant pan mae gennych chi gyllideb? ‘Cadw mi gei’ ydw i’n galw'r dechneg rydw i’n ei defnyddio. Mae rhai pobl yn ei alw’n dechneg ‘llenwi jar’. Fel hyn mae’n gweithio. Y broblem fawr pan fyddwch chi’n edrych ar eich datganiad banc yw ei fod yn dweud celwydd.
Nid yw’n dweud wrthych chi beth sy’n dod i mewn a beth sy’n mynd allan. Dim ond ciplun o’ch arian chi heddiw yw hwn. Felly mae angen i ni wneud iddo ddweud y gwir. Gallwch chi wneud hyn drwy gael gwahanol gategorïau o wariant hysbys.
Mae biliau yn un amlwg y dylai’r rhan fwyaf o bobl gael. A byddwch chi’n gwybod faint o’ch cyllideb y dylech chi ei neilltuo ar gyfer eich biliau. Ond gallech chi gynnwys siopa dillad, y Nadolig, gwyliau haf. Wedyn, pan mae’ch arian yn dod i mewn bob mis, rydych chi’n ei neilltuo i’r cyfrif priodol.
Fe gadwn ni at hanner can punt y mis ar gyfer y Nadolig. Wedyn, byddwch chi’n gwybod faint rydych chi’n gallu ei wario ar bethau ar gyfer y Nadolig heb boeni. Gyda’ch gwyliau haf, os oes tri chan punt yno, gallwch chi wario tri chan punt. Os ydych chi eisiau mynd ar wyliau sy’n costio chwe chan punt, rydych chi’n gwybod na allwch chi ei fforddio. Ond, nawr mae hefyd yn golygu bod eich cyfrif banc, pan ydych chi’n edrych arno, yn dweud wrthych chi beth gallwch chi fforddio ei wario mewn gwirionedd.
Nawr, trethiant. Mae’n bwysig iawn gwybod pa arian mae’r wladwriaeth yn ei gymryd oddi arnoch chi. Wrth gwrs, treth yw’r gost o fyw mewn cymdeithas sifil a chyfiawn. Dyma beth rydyn ni’n ei dalu am fod yn aelod, wedyn caiff yr arian ei wasgaru i bawb, wedi’i ailddosbarthu o bosibl.
Efallai eich bod yn fuddiolwr. Efallai ddim. Y naill ffordd neu’r llall, dylech chi ddeall sut mae’n gweithio. Fy enghraifft i gynrychioli hyn yw eich cod treth. Os ydych chi’n berson sy’n gweithio neu’n cael pensiwn, bydd cod treth yn cael ei anfon atoch chi bob blwyddyn, rhywbeth fel 1250L. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei gael, yn edrych arno, ddim yn gwybod beth mae’n ei olygu, ac yn anghofio amdano. Ond, eich cod treth yw’r hyn sy’n dweud wrth eich cyflogwr neu’ch cwmni pensiwn faint o dreth i’w gymryd oddi arnoch chi. Ydych chi’n gwybod cyfrifoldeb pwy yw sicrhau bod hwn yn iawn? Nid y wladwriaeth, nid eich cyflogwr, ond chi.
Felly, os yw’ch cod treth yn anghywir a’ch bod chi wedi bod yn talu gormod o dreth am flynyddoedd, gan olygu bod gennych chi ddim digon o incwm, efallai y byddwch yn gallu ei gael yn ôl, ond efallai eich bod chi wedi wynebu problem gyda’ch llif arian yn y cyfamser. Os nad ydych chi wedi bod yn talu digon o dreth am flynyddoedd, tybed beth fydd yn digwydd? Maen nhw’n mynd i ofyn am fwy o arian gennych chi pan maen nhw’n darganfod hynny. Rydych chi’n mynd i ddigalonni.
Sut ydw i’n mynd i ddod o hyd i'r arian? Roeddwn i’n meddwl bod hyn i gyd yn iawn. Eich cyfrifoldeb chi yw’ch cod treth. Mae'r modiwl yn mynd i esbonio sut mae trethiant yn gweithio. Peidiwch â’i anwybyddu. Mae'n bwysig.
End transcript: Clip Sain 1 Cyflwyniad i Sesiwn 2
Clip Sain 1 Cyflwyniad i Sesiwn 2
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Dyma’r ail sesiwn mewn cwrs ar reoli arian sydd wedi'i gynhyrchu gan y Brifysgol Agored mewn cydweithrediad â MoneySavingExpert.com.

Yn y sesiwn hon ar gyllidebu a threthi, byddwch chi’n dysgu am yr incwm rydych chi’n ei gael – eich incwm net – a sut mae didynnu treth incwm a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) o’ch incwm gros yn effeithio arno.

Wedyn, byddwch yn edrych ar nodweddion eich gwariant cyn dechrau llunio eich cyllideb.

Mae deall sut i reoli eich cyllideb yn rhoi sail dda i chi o ran rheolaeth ariannol ac, yn y sesiwn hon, byddwch chi’n dysgu sut mae mynd ati i wneud hyn.

Ar ôl astudio'r sesiwn hon, dylech allu gwneud y canlynol:

  • deall sut mae treth incwm ac Yswiriant Gwladol yn effeithio ar enillion
  • deall gwariant aelwyd
  • llunio cyllideb
  • deall y prif agweddau ar reoli cyllideb.

Mae’r Sesiwn hon yn un o gyfres sy’n creu cwrs Academi Arian MSE a bu’n bosibl ei wireddu drwy gyfraniadau ariannol a chynnwys gan MoneySavingExpert.com.

AOM_2

Oeddech chi'n gwybod pe byddech chi'n astudio cwrs rhan-amser â thâl gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru, gallech gael hyd at £4,500* i'ch helpu gyda'ch costau byw?

Mwy o wybodaeth

*Mae rheolau cymhwysedd yn berthnasol ar gyfer cymorth ariannol.