Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Defnyddio mesuriadau metrig: hyd

Gallwn ddefnyddio unedau gwahanol i fesur hyd, lled neu uchder eitemau. Byddwn yn canolbwyntio ar unedau metrig.

Unedau hyd metrig
Uned fetrigTalfyriad
milimetrmm
centimetrcm
metrm
cilometrkm

Milimetr yw’r uned fetrig leiaf a ddefnyddir gan y rhan fwyaf o bobl i fesur hyd rhywbeth. Byddech fel arfer yn defnyddio milimetrau i fesur eitemau sy’n fach iawn neu y mae angen eu mesur yn gywir iawn; er enghraifft, caiff dimensiynau peiriant golchi eu mesur mewn milimetrau fel arfer.

Hefyd caiff centimetrau a metrau eu defnyddio fel arfer i fesur eitemau ar gyfer tasgau pob dydd.

Byddai cilometrau’n cael eu defnyddio i fesur y pellter rhwng lleoedd. Efallai y bydd rhedwr yn cofnodi’r pellter mae wedi’i redeg mewn cilometrau.

Gweithgaredd 1: Pa uned?

Pa uned fyddech chi’n ei defnyddio i fesur y canlynol?

  1. Peiriant golchi dillad

  2. Y pellter rhwng Wrecsam a Chaerdydd

  3. Hoelen

  4. Cegin

  5. Bws

  6. Rhedfa mewn parc

  7. Eich canol

  8. Soffa

  9. Amlen

  10. Pen sgriw

Ateb

Atebion a awgrymir:

  1. Centimetrau neu filimetrau

  2. Cilometrau

  3. Centimetrau neu filimetrau

  4. Metrau

  5. Metrau

  6. Cilometrau

  7. Centimetrau

  8. Centimetrau neu fetrau

  9. Centimetrau

  10. Milimetrau