Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.5 Cyfrifo gan ddefnyddio unedau hyd metrig

Efallai y bydd angen ichi wneud cyfrifiadau gyda hyd. Efallai y bydd angen ichi drosi rhwng unedau metrig, naill ai cyn gwneud y cyfrifiad, neu ar y diwedd.

Enghraifft: Baneri bychain

Mae Fran yn gosod baneri bychain. Mae ganddi dri hyd o faneri bach sy’n mesur 160 cm, 240 cm a 95 cm. Faint o fetrau o faneri bach sydd ganddi?

Dull

Mae’r holl unedau wedi’u rhoi mewn centimetrau, felly gallwch eu hadio at ei gilydd:

165 cm + 240 cm + 95 cm = 500 cm

Mae’r cwestiwn yn gofyn am yr ateb mewn metrau, felly mae angen ichi drosi 500 cm yn fetrau:

500 cm ÷ 100 = 5 m

Felly bydd gan Fran 5 m o faneri bach.

Enghraifft: Hyd silffoedd

Mae Dixie eisiau gosod silff mewn alcof. Lled yr alcof yw 146 cm. Mae ganddi ddarn o bren 2 m o hyd. Faint o bren fydd ganddi dros ben?

Dull

Mae’r darn o bren wedi’i fesur mewn metrau, felly mae angen ichi drosi hwn yn gentimetrau:

2 m × 100 = 200 cm

200 cm – 146 cm = 54 cm

Felly bydd gan Dixie 54 cm dros ben.

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol.

Gweithgaredd 7: Gwneud cyfrifiadau gyda hyd

Cyfrifwch yr atebion i’r problemau canlynol heb ddefnyddio cyfrifiannell. Gallwch ail-wirio’ch atebion gyda chyfrifiannell os oes angen. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

  1. Rydych yn gwneud cardiau Nadolig ar gyfer stondin crefftau. Rydych eisiau ychwanegu cwlwm, sy’n cymryd 10 cm o ruban, at bob cerdyn. Eich bwriad yw creu 50 o gardiau. Faint o fetrau o ruban mae arnoch eu hangen?

  2. Rydych eisiau gwneud cynhwysydd planhigion i’r ardd sy’n mesur 1.5 m wrth 60 cm. Faint o bren fydd angen ichi ei brynu? (Awgrym: bydd angen dau ddarn o bren o bob hyd i wneud y cynhwysydd.)

  3. Mae Sali’n gwneud pâr o lenni. Mae angen 1.8 m o ffabrig ar gyfer pob llen, a 20 cm yr un ar gyfer hemio. Faint o fetrau o ffabrig fydd arni eu hangen?

  4. Mae Siôn eisiau gosod silffoedd yn ei garej i ddal bocsys storio. Mae pob bocs yn 45 cm o led ac mae Siôn eisiau rhoi pedwar bocs ar bob silff. Mae wedi gweld silffoedd 2 m o led. Fyddai’r rhain yn addas?

Ateb

Bydd cyfeirio at y diagram trosi metrig wedi bod yn ddefnyddiol ichi ar gyfer y gweithgaredd hwn.

  1. Yn gyntaf mae angen ichi weithio allan faint o gentimetrau o ruban mae arnoch eu hangen:

    • 10 × 50 = 500 cm

    Noder bod y cwestiwn yn gofyn ichi faint o fetrau o ruban mae arnoch eu hangen, yn hytrach na chentimetrau. Felly mae angen ichi rannu 500 cm â 100 i ganfod yr ateb mewn metrau:

    • 500 ÷ 100 = 5 m

  2. TMae’r mesuriadau ar gyfer y cynwysyddion planhigion mewn unedau gwahanol, felly mae angen ichi drosi popeth yn gentimetrau neu fetrau yn gyntaf. Nid yw’r cwestiwn yn nodi a oes angen i’ch ateb fod mewn centimetrau neu fetrau, felly bydd y naill neu’r llall yn iawn.

    Gan ddefnyddio Dull 1, trosi’n gentimetrau, noder mai hyd y cynhwysydd yw 1.5 m:

    • 1.5 × 100 = 150 cm

    Mae mesuriad yr ochrau byr eisoes mewn centimetrau, felly nawr gallwch adio’r cyfanswm ar gyfer y pedair ochr:

    • 150 cm + 60 cm + 150 cm + 60 cm = 420 cm

    Gan ddefnyddio Dull 2, trosi’n fetrau, mae hyd y cynhwysydd eisoes mewn metrau. Hyd yr ochrau byr yw 60 cm, a bydd angen trosi hwn yn fetrau:

    • 60 ÷ 100 = 0.6 m

    Nawr gallwch adio cyfanswm y pedair ochr:

    • 1.5 m + 0.6 m + 1.5 m + 0.6 m = 4.2 m

  3. Mae mesuriadau’r llenni a’r hem wedi’u nodi mewn unedau gwahanol. Mae’r cwestiwn yn gofyn am yr ateb mewn metrau, felly mae angen ichi drosi popeth yn fetrau yn gyntaf:

    • 20 cm ÷ 100 = 0.2 m

    Nawr gallwch adio cyfanswm maint y ffabrig mae ei angen ar gyfer y llenni:

    • 1.8 m + 1.8 m + 0.2 m + 0.2 m = 4.0 m (4 m)

  4. Mae’r mesuriadau ar gyfer y bocsys storio a’r silffoedd wedi’u nodi mewn unedau gwahanol, felly mae angen ichi drosi popeth yn gentimetrau neu’n fetrau yn gyntaf. Nid yw’r cwestiwn yn nodi a oes angen i’ch ateb fod mewn centimetrau neu fetrau, felly bydd y naill neu’r llall yn iawn.

    Gan ddefnyddio Dull 1, trosi’n gentimetrau, lled y silffoedd yw 2 m. Yn gyntaf mae angen ichi drosi hwn yn gentimetrau:

    • 2 m × 100 = 200 cm

    Mae mesuriadau’r bocsys storio mewn centimetrau eisoes, felly nawr gallwch weithio allan lled pedwar ohonynt.

    • 45 cm × 4 = 180 cm

    Felly byddai’r silffoedd yn addas.

    Gan ddefnyddio Dull 2, trosi’n fetrau, mae mesuriadau’r silffoedd mewn metrau eisoes, ond mae’r bocsys yn mesur 45 cm.

    • 45 cm ÷ 100 = 0.45 m

    Mae angen pedwar bocs arnaf:

    • 0.45 m × 4 = 1.80 m (1.8 m)

    Byddai’r silffoedd yn addas. Ffordd arall o wneud hyn yw gweithio allan lled pedwar bocs mewn centimetrau a throsi’r ateb yn fetrau:

    • 45 cm × 4 = 180 cm

    • 180 cm ÷ 100 = 1.80 m (1.8 m)

Crynodeb

Yn yr adran hon, rydych wedi edrych ar fesur a chyfrifo hyd. Rydych wedi defnyddio mesuriadau metrig gwahanol, fel milimetrau, centimetrau, metrau a chilometrau. Nawr gallwch:

  • fesur a deall meintiau gwrthrychau

  • deall unedau hyd gwahanol

  • trosi rhwng gwahanol unedau hyd

  • gwneud cyfrifiadau gyda hyd.