Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.1 Offer mesur

I fesur maint bach iawn, efallai y byddech yn defnyddio llwy de. Mae hwn yr un peth â 5 mililitr (ml).

Described image
Ffigur 26 Llwy de

I fesur meintiau mwy, mae’n debyg y byddech yn defnyddio jwg mesur o ryw fath. Yn aml mae jygiau mesur wedi’u labelu â mililitrau, yn arbennig rhai newydd, a gallant ddod mewn meintiau gwahanol: gall rhai fesur hyd at 500 ml o hylif ac eraill hyd at 1 litr (1 000 ml). Gall rhai ddal mwy neu lai na hyn.

Described image
Ffigur 27 Jwg mesur

Nawr edrychwch ar yr enghraifft ganlynol.

Enghraifft: Mesur hylifau

Pe bai’n rhaid ichi fesur 350 ml o sudd ar gyfer rysáit, ble fyddai’r hylif yn cyrraedd yn y jwg hwn?

Described image
Ffigur 28 Mesur hylifau mewn jwg mesur

Dull

Mae tri marc ar y jwg rhwng 300 ml a 400 ml. Mae’r rhain yn marcio 325, 350 a 375 ml. Felly mae angen ichi lenwi’r jwg at y marc canol (cofiwch chwilio am y lefel lle mae’r hylif yn cyffwrdd â’r raddfa). Efallai bydd yn rhaid ichi ddal y jwg i fyny i lefel eich llygad er mwyn mesur y maint mor gywir ag y gallwch.

Described image
Ffigur 29 Mesur hylifau mewn jwg mesur (ateb)

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Gweithgaredd 15: Edrych ar gynhwysedd (cyfaint)

Nawr eich bod wedi gweld yr enghraifft, rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol:

  1. Faint o goffi neu de mae’r cwpan a ddefnyddiwch fel arfer yn ei ddal? Amcangyfrifwch y cyfaint yn gyntaf, ac ysgrifennwch eich amcangyfrif i lawr. Nesaf, llenwch eich cwpan â dŵr ac arllwyswch y dŵr i jwg mesur. (Awgrym: mae potel safonol o ddŵr yn dal 500 ml. Mae can o bop yn dal 330 ml).

  2. Mae’n rhaid i wyddonydd fesur 2.8 ml o hylif yn y chwistrell hon. At ba farc ddylai’r hylif gyrraedd?

    Described image
    Ffigur 30 Chwistrell
  3. Mae plymwr wedi draenio’r dŵr o system gwres canolog ddiffygiol i set o jygiau mesur. Beth yw cyfanswm y litrau mae’r plymwr wedi’u draenio o’r system? Sylwch fod y raddfa wedi’i marcio mewn ffracsiynau o litr yn hytrach na mililitrau ar y jygiau mesur hyn.

    Described image
    Ffigur 31 Tri jwg mesur

Ateb

  1. Amcangyfrifais fod fy nghwpan yn dal 400 ml. Mewn gwirionedd, mae’n dal 350 ml. Efallai y bydd eich ateb chi’n gwbl wahanol, gan ddibynnu ar faint y cwpan.

  2. Mae’r rhaniadau wedi’u marcio pob 0.1 ml. Dylai’r chwistrell edrych fel hyn:

    Described image
    Ffigur 32 Chwistrell (ateb)
  3. Mae’r plymwr wedi draenio llond dau jwg un litr a thri chwarter jwg arall, sef cyfanswm o 2.75 litr. Gellid ysgrifennu hyn hefyd fel 2 750 ml neu 2 litr 750 ml.