Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.1 Amcangyfrif atebion i gyfrifiadau

Drwy gydol y cwrs hwn, gofynnir ichi amcangyfrif neu frasamcanu ateb mewn senario. Os nad ydych yn defnyddio talgrynnu i roi ateb i’r cwestiwn hwn, bydd eich ateb yn anghywir.

Rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol trwy ddefnyddio talgrynnu drwyddo draw. Dylech roi sylw arbennig i’r iaith a ddefnyddir.

Gweithgaredd 18: Talgrynnu

  1. 6 439 800 yw poblogaeth dinas. Talgrynnwch y rhif hwn i’r filiwn agosaf.

  2. Mae tocynnau i gyngerdd yn costio £6 yr un. 6 987 o docynnau wedi cael eu gwerthu. Tua faint o arian sydd wedi cael ei gasglu?

  3. Mae 412 o fyfyrwyr wedi llwyddo yn yr arholiad Mathemateg TGAU eleni yn Ysgol Uwchradd Longfield. Llwyddodd 395 o fyfyrwyr y llynedd. Tua faint o fyfyrwyr a lwyddodd yn yr arholiad Mathemateg TGAU dros y ddwy flynedd ddiwethaf?

  4. Mae pedair cadair freichiau’n costio £595. Beth yw cost un gadair yn fras?

    Described image
    Ffigur 9 Faint yw cost un gadair freichiau?
  5. Mae 18 o bensiliau mewn bocs. Mae cwmni’n archebu 50 o focsys. Tua faint o bensiliau yw hynny?

Ateb

  1. Mae’r boblogaeth yn talgrynnu i 6 000 000 (chwe miliwn) oherwydd bod 6 439 800 yn agosach i 6 miliwn na 7 miliwn.

  2. 6 987 wedi’i dalgrynnu i’r 1 000 agosaf yw 7 000. Os yw pob tocyn yn costio £6, cyfanswm bras yr arian sydd wedi’i gasglu yw:

    • £6 × 7 000 = £42 000
  3. 412 i’r cant agosaf yw 400. 395 i’r cant agosaf yw 400 hefyd. Felly cyfanswm bras y nifer o fyfyrwyr sy’n llwyddo yn TGAU Mathemateg yw:

    • 400 + 400 = 800 o fyfyrwyr
  4. £595 i’r cant agosaf yw £600. Felly cost fras un gadair freichiau yw:

    • £600 ÷ 4 = £150
  5. 18 wedi’i dalgrynnu i’r 10 agosaf yw 20. Felly cyfanswm bras y nifer o bensiliau yw:

    • 20 × 50 = 1 000 o bensiliau

    Noder: 50 × 20 = 50 × 2 × 10 = 100 × 10 = 1 000.

Crynodeb

Hyd yma rydych wedi gweithio gyda rhifau negatif, rhifau cyfan, amcangyfrif, lluosrifau a rhifau sgwâr. Bydd yr holl sgiliau sydd wedi cael eu hymarfer yn eich helpu gyda thasgau pob dydd fel siopa, gweithio gyda chyllideb a darllen tymheredd. Rydych wedi ymdrin â’r amcanion canlynol:

  • ystyr rhif positif a rhif negatif
  • sut i wneud cyfrifiadau gyda rhifau cyfan
  • sut y gall ateb bras eich helpu i wirio ateb union
  • lluosrifau a rhifau sgwâr.

Yn nes ymlaen yn y cwrs hwn byddwch yn edrych ar gyfrifiadau gwrthdro. Ystyr hyn yw gwrthdroi’r holl weithrediadau er mwyn gwirio bod eich ateb yn gywir.