Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.2 Tynnu llun ffracsiynau

Enghraifft: Tynnu llun o’r ffracsiynau

Os oes angen ichi gymharu un ffracsiwn ag un arall, gall fod yn ddefnyddiol lluniadu’r rhannau ffracsiynol.

Edrychwch ar y rhifau cymysg isod. (Mae rhif cymysg yn cyfuno rhif cyfan a ffracsiwn.) Dyweder eich bod eisiau rhoi’r symiau hyn yn nhrefn eu maint, gyda’r lleiaf yn gyntaf:

2 one divided by two, 3 one divided by four, 1 one divided by three

Dull

Er mwyn ateb hwn, gallech edrych ar y rhifau cyfan yn gyntaf, ac yna y rhannau ffracsiynol. Pe baech chi’n lluniadu’r rhain, gallen nhw edrych fel hyn:

Described image
Ffigur 16 Lluniadu’r ffracsiynau

Felly’r drefn gywir fyddai:

1 one divided by three, 2 one divided by two, 3 one divided by four

Defnyddiwch yr enghraifft uchod i’ch helpu gyda’r gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Gweithgaredd 20: Rhoi ffracsiynau mewn trefn

  1. Rhowch y ffracsiynau hyn yn nhrefn eu maint, gyda’r lleiaf yn gyntaf:
  • 5 one divided by four, 6 one divided by five, 2 one divided by two
  1. Rhowch y ffracsiynau hyn yn nhrefn eu maint, gyda’r lleiaf yn gyntaf:
  • 2 two divided by five, 1 nine divided by 10, 2 one divided by two

Ateb

  1. Y drefn gywir yw:
  • 2 one divided by two, 5 one divided by four, 6 one divided by five
  • Yn yr achos hwn, er bod one divided by two yn fwy na one divided by four a one divided by four yn fwy na one divided by five, mae angen ichi edrych ar y rhifau cyfan yn gyntaf, yna y ffracsiynau. Mae’r diagram yn dangos hyn yn fwy clir:
Described image
Ffigur 17: Tynnu llun o’r ffracsiynau
  1. Y drefn gywir fyddai:
  • 1 nine divided by 10, 2 two divided by five, 2 one divided by two
  • Gan edrych ar y rhifau cyfan, 1 nine divided by 10 fyddai’r lleiaf oherwydd bod y ddau rif cymysg arall yn fwy na 2. I weld p’un yw’r mwyaf o 2 two divided by five neu 2 one divided by two, mae angen ichi gymharu’r rhan ffracsiwn. P’un sy’n fwy: two divided by five neu one divided by two?
  • • I weithio hyn allan, gallech luniadu lluniau fel uchod, neu gallech ddefnyddio’r dull yr edrychon ni arno yn gynharach, lle rydych yn newid i ffracsiynau cywerth – rhifau gwaelod y ffracsiynau yw 5 a 2, a lluosrif cyffredin lleiaf 5 a 2 yw 10:
  • 5 × 2 = 10
  • 2 × 5 = 10
  • Beth bynnag a wnewch i’r gwaelod, gwnewch yr un peth i’r top:
  • Os ydych chi’n lluosi’r rhifau top a gwaelod yn two divided by five â 2, rydych yn gwneud four divided by 10.
  • Os ydych chi’n lluosi’r rhifau top a gwaelod yn one divided by two â 5, rydych yn gwneud five divided by 10.
  • Mae four divided by 10 (two divided by five) yn llai na five divided by 10 (one divided by two), felly mae 2two divided by fiveyn llai na 2one divided by two.