4.2 Talgrynnu arian
Talgrynnu arian i’r 10c agosaf
Rydym yn defnyddio talgrynnu arian mewn bywyd go iawn wrth siopa ar gyllideb neu efallai gwirio bil.
Y rheol yw os yw ffigur olaf y swm yn 5c neu’n fwy, rydych yn talgrynnu i’r 10c nesaf i fyny, ac os yw’r ffigur olaf yn llai na 5c, nid yw’r digid 10c yn newid. Er enghraifft:
Ffigur olaf 43c yw 3 (mae’n llai na 5) felly gellir ei dalgrynnu i lawr i 40c
Ffigur olaf 78c yw 8 (mae’n fwy na 5) felly gellir ei dalgrynnu i fyny i 80c
Gweithgaredd 25: Talgrynnu i’r 10c agosaf
Talgrynnwch y symiau canlynol i’r 10c agosaf:
- 13c
- 26c
- 35c
- £4.72
- £8.63
- £14.85
Ateb
- 10c
- 30c
- 40c
- £4.70
- £8.60
- £14.90
Talgrynnu arian i’r £ agosaf
Wrth dalgrynnu i’r £ agosaf, y rheol yw os yw ffigur olaf y swm yn 50c neu’n fwy, talgrynnwch i fyny i’r £ nesaf, ac os yw’r ffigur olaf yn llai na 50c, nid yw’r golofn punnoedd yn newid. Er enghraifft:
Ffigur olaf £3.42 yw 42 (mae’n llai na 50) felly gellir ei dalgrynnu i lawr i £3
Ffigur olaf £56.67 yw 67 (mae’n fwy na 50) felly gellir ei dalgrynnu i fyny i £57
Gweithgaredd 26: Talgrynnu i’r £ agosaf
Talgrynnwch y symiau canlynol i’r £ agosaf:
- £6.30
- £9.70
- £0.50
- £13.12
- £26.17
- £52.50
Ateb
- £6
- £10
- £1
- £13
- £26
- £53
Crynodeb
Drwy gwblhau’r pwnc hwn, rydych wedi dysgu sut i frasamcanu atebion i gyfrifiadau sy’n cynnwys rhifau degol.
Rydych hefyd wedi dysgu sut i dalgrynnu rhif degol i ddau le degol a thalgrynnu arian i’r 10c neu’r £ agosaf.