Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Lluosi

Lluosi degolion â 10, 100 a 1 000

Pan rydych yn lluosi rhif degol â 10, mae pob rhif yn mynd 10 gwaith yn fwy, felly mae’r pwynt degol yn symud un lle i’r dde.

Pan rydych yn lluosi â 100, mae pob rhif yn mynd 100 gwaith yn fwy, felly mae’r pwynt degol yn symud dau le i’r dde.

Pan rydych yn lluosi â 1 000 mae pob rhif yn mynd 1 000 gwaith yn fwy, felly mae’r pwynt degol yn symud tri lle i’r dde.

Mae’r fideo canlynol yn dangos ichi’r dull cywir o luosi rhifau degol â 10, 100 neu 1 000:

Gwylio’r fideo ar.

Fideos YouTube (Saesneg yn unig)
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol.

Gweithgaredd 28: Lluosi degolion â 10, 100 neu 1000

Cyfrifwch y canlynol:

  1. 16.3 × 10
  2. 5.27 × 10
  3. 82.05 × 100
  4. 673.2 × 100
  5. 48.851 × 1 000
  6. 59.24 × 1 000

Ateb

  1. 163
  2. 52.7
  3. 8 205
  4. 67 320
  5. 48 851
  6. 59 240

Lluosi degolion

Pan rydych yn lluosi rhifau degol, dylech anwybyddu’r pwynt degol a defnyddio’ch dull arferol i luosi’r rhifau a roddwyd ichi.

Pan rydych wedi cael eich ateb, cyfrwch gyfanswm y lleoedd degol yn y ddau rif rydych wedi eu lluosi.

Gan ddechrau o golofn dde eich ateb, cyfrwch yr un nifer o leoedd degol i’r chwith a nodi’ch pwynt degol.

Gwyliwch y fideo canlynol i gael esboniad o sut i luosi rhifau degol:

Gwylio’r fideo ar .

Fideos YouTube (Saesneg yn unig)
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gweithgaredd 29: Lluosi degolion

Cwblhewch y gweithgaredd hwn gan ddefnyddio’r dull lluosi rydych yn fwyaf cyfforddus ag ef. Dangoswch eich atebion i ddau le degol.

  1. 0.7 × 4
  2. 0.3 × 0.4
  3. 18.7 × 3
  4. 6.31 × 2.2
  5. 1.9 × 0.59
  6. 2.35 × 1.78
  7. Mae bocs o fagiau te yn costio £1.29. Faint fydd pum bocs yn ei gostio?
  8. Mae Alun yn ennill £8.95 yr awr. Faint mae’n ei ennill mewn 37.5 awr?

Ateb

  1. 2.8
  2. 0.12
  3. 56.1
  4. 13.882 (13.88 i 2 le degol)
  5. 1.121 (1.12 i 2 le degol)
  6. 4.183 (4.18 i 2 le degol)
  7. £6.45
  8. £335.625 (£335.63 i 2 le degol)