Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynglŷn â OpenLearn Cymru

Diweddarwyd Dydd Sadwrn, 22 Mehefin 2019

Casgliad o adnoddau addysgol ar-lein am ddim a ddatblygwyd ac a gafodd eu curadu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru.



Waeth os ydych chi’n byw, yn gweithio neu’n astudio yng Nghymru neu’n chwilfrydig am y wlad - rydych wedi dod o hyd i’r lle cywir i ddysgu rhywbeth newydd, am ddim.

Ar OpenLearn Cymru, fe welwch ystod o adnoddau am ddim sy’n berthnasol i Gymru a bywyd Cymreig. Mae’r rhain yn cynnwys cyrsiau ar-lein, fideos, profiadau rhyngweithiol ac erthyglau. Os hoffech ddysgu drwy gyfrwng y Saesneg, gallwch ymchwilio OpenLearn Wales.


Beth fyddaf i’n ei ddysgu ar OpenLearn Cymru?

Mae llawer iawn i’w ddarganfod. Gallech ystyried sgiliau bywyd bob dydd, chwilio drwy adnoddau i gefnogi eich astudio, cael mewnwelediad ar ddatblygu eich gyrfa neu bori drwy hanes a chymdeithas Cymru. Chi sydd â’r dewis; gallwch ddefnyddio’r hidlyddion ar ochr chwith yr hwb er mwyn eich helpu i ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano. Yn ogystal, gallwch osod yr adnoddau yn nhrefn yr wyddor, yn ôl dyddiad neu boblogrwydd drwy ddefnyddio’r gwymplen ar y brig.

Mae llawer o adnoddau wedi cael eu datblygu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru mewn partneriaeth ag ystod o arbenigwyr a sefydliadau. Rydym yn ddiolchgar i’n holl gyfranwyr a’n partneriaid sydd wedi gweithio i sicrhau bod OpenLearn Cymru yn bosibl.


Mae OpenLearn Cymru am ddim. Does dim costau cudd…

Does dim angen dod yn fyfyriwr yn y Brifysgol Agored er mwyn defnyddio OpenLearn Cymru ac nid yw’n rhoi credydau, dyfarnu graddau na’n cynnig mynediad i wasanaethau sydd ar gael i fyfyrwyr cofrestredig. Fodd bynnag, mae OpenLearn Cymru yn rhoi mynediad i chi i ystod o adnoddau addysgol ardderchog y gallwch eu hastudio pryd bynnag a ble bynnag yr hoffech.

Byddwch yn gallu manteisio i’r eithaf ar OpenLearn drwy greu cyfrif (mae hyn am ddim). Bydd creu cyfrif yn rhoi mynediad llawn i chi i ystod o adnoddau nad ydynt ar gael i westeion, megis cofrestru ar gyfer cyrsiau am ddim a chael tystiolaeth o gwblhau cyrsiau. O’ch proffil MyOpenLearn, byddwch yn gallu tracio’ch cynnydd a lawrlwytho cofnod gweithgareddau.

I ddysgu mwy am sut mae OpenLearn yn gweithio, gweler ein cwestiynau cyffredin.



Astudio gyda’r Brifysgol Agored

Does dim angen unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch i astudio’r rhan fwyaf o’n cyrsiau israddedig.

Gyda benthyciadau ar gyfer ffioedd dysgu, cymorth ariannol ac opsiynau talu wrth fynd ar gael, mae astudio gyda’r Brifysgol Agored yn llawer mwy fforddiadwy nag y byddech chi’n ei feddwl o bosibl.

Rhagor o wybodaeth


Os ydych chi’n byw yng Nghymru, gallech fod yn gymwys am hyd at £4,500* o gyllid cynhaliaeth ar gyrsiau â thâl.

Rhagor o wybodaeth.

*Mae rheolau cymhwysedd yn berthnasol ar gyfer cymorth ariannol.


 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?