Gweld y maint llawn
Ynglŷn â'r gwaith hwn
Mae'r collage trawiadol hwn yn gofnod gweledol o frwydr trigolion i atal Coedwig Tirpentwys, ger Pont-y-pŵl, rhag cael ei throi'n chwarel. Roedd yr ardal, a elwir yn lleol yn y 'Canyons' yn Saesneg, yn bwll glo brig rhwng y 1870au a'r 1960au. Fodd bynnag, dros yr hanner can mlynedd diwethaf, mae wedi'i hadfer gan fyd natur ac mae bellach yn ucheldir llawn coed gyda llyn ar y gwaelod. Mae'n enghraifft glasurol o 'wyrddni'r cymoedd' sydd wedi deillio o'r dad-ddiwydiannu mewn sawl rhan o dde Cymru.
Mae'r collage yn defnyddio penawdau i adrodd stori'r frwydr 15 mlynedd lwyddiannus i achub y 'Canyons'. Caiff cronoleg yr ymdrech honno ei chynrychioli wrth i'r llygad symud i lawr y darn. Daw'r pennawd ‘Quarry plans will ruin our way of life;’ o bapur newydd y South Wales Argus yn 2006. Mae pennawd Newyddion y BBC ar y gornel chwith isaf, ‘Quarrying appeal at Tirpentwys ‘canyons’ beauty spot rejected’ yn nodi diwedd y saga (dyna'r gobaith o leiaf) yn 2019. Gwnaeth Emily Clackworthy, a oedd yn rhan weithgar o'r ymgyrch, gadw'r penawdau a'u gosod ynghyd. Fodd bynnag, canolbwynt y collage yw'r llun hardd o'r 'Canyons' fel y maent yn bodoli heddiw gan ferch dalentog Emily, Hazel. Y gwrthgyferbyniad rhwng y gwrthdaro a'r bygythiad a nodweddir gan y penawdau, a llonyddwch a swyn y braslun canolog hwnnw, sy'n rhoi i'r darn ei rym.
Mae'r dudalen hon yn rhan o arddangosfa ar-lein Blaenau Gwent REACH.
Ffilm a sain | Ysgrifennu creadigol | Celf weledol
Straeon digidol | Hanes Blaenau Gwent | Ynglŷn â'r prosiect hwn
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon