Blaenau Gwent Trwy’r Oesau
Yn seiliedig ar drafodaethau a gynhaliwyd â grŵp Hanes BG REACH
Mae'r llinell amser hon yn seiliedig ar y pynciau a drafodwyd gan gyfranogwyr BG REACH mewn gweithdai ar hanes lleol yr ardal. Mae'n cynnwys llawer o'r ymadroddion a ddefnyddiwyd gan y rhai a oedd yn bresennol yn y sesiynau hynny, air am air. Drwy hyn, mae'n cynrychioli'r elfennau o hanes Blaenau Gwent sy'n bwysig i'r bobl sy'n byw yno.
Mae rhannau cynnar y llinell amser yn ymdrin â gwerth dwy fil o flynyddoedd o hanes mewn pum sleid, o chwedlau lleol am gymeriad chwedlonol Bendigeidfran i oresgyniad y Rhufeiniaid a'r Normaniaid i eglwys 800 mlynedd oed Illtud Sant yn Llanhiledd. Mae'r sleidiau hyn yn ffordd wych o gwmpasu hanes cenedlaethol a lleol, gan nodi buddugoliaethau brenhinoedd Gogledd Cymru Gruffydd ap Cynan ac Owain Gwynedd cyn troi at ystyried bywydau beunyddiol trigolion Blaenau Gwent yn yr oesoedd canol.
Ymdrinnir yn fanylach â 250 mlynedd olaf hanes yr ardal dros saith sleid, gyda phwyslais ar y chwyldro diwydiannol a'i ganlyniadau. Mae'r llinell amser yn awgrymu mai datblygiad diwydiant, a'i effaith ar ddwysedd y boblogaeth, ffyrdd o fyw a'r dirwedd ei hun, a lywiodd y cymunedau a welir ym Mlaenau Gwent heddiw. Mae sleid ar wahân i'r diwydiant dur a'r diwydiant glo, ond yn y ddwy achos, daw'r stori i ben yn ddirybudd wrth i'r gweithfeydd dur a'r pyllau glo gael eu cau ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif.
Mae'r sleidiau olaf yn olrhain rhai o brif uchafbwyntiau ac isafbwyntiau 75 mlynedd diwethaf hanes yr ardal. Rydym yn symud o rôl hollbwysig Cymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar fel model ar gyfer sefydlu'r GIG i streic aflwyddiannus y glöwyr rhwng 1984 a 1985. Mae'r pynciau hyn yn adlewyrchu cysylltiad cryf yr ardal â hunaniaeth dosbarth gweithio ac undod cymunedol. Mae'r ffaith bod y digwyddiadau hyn yn rhan mor bwysig o'r llinell amser yn awgrymu ymrwymiad parhaus i'r wleidyddiaeth adain chwith a'u llywiodd. Mae pwysigrwydd menywod fel conglfeini cymdeithas, yn enwedig mewn cyfnodau o adfyd, hefyd yn amlwg.
Mae'r sleid olaf yn edrych ar Gofeb Glofa'r Chwe Chloch i'r rhai a gollodd eu bywydau yn nhrychineb Glofa'r Chwe Chloch. Cafodd ei dadorchuddio yn 2010, bron ddegawd ers i'r safle gwaith dur olaf ym Mlaenau Gwent gau, a dros ddau ddegawd ers i'r pwll glo olaf gau. Mae ymdeimlad o ddeuoliaeth teimlad yn y disgrifiad o natur yn dychwelyd i'r cymoedd yma; edifeirwch am yr hyn a gollwyd drwy ddad-ddiwydiannu, ond cydnabyddiaeth hefyd fod rhywbeth o bosibl wedi'i ennill hefyd.
'Pit Ponies in Britain'
Gan Katharine Marquis
Dyma draethawd byr ond manwl ar y defnydd o ferlod mewn pyllau glo, gan yr hanesydd lleol Katharine Marquis. Er bod Katharine yn cyfeirio at Brydain gyfan yn ei thrafodaeth, mae'n canolbwyntio'n benodol ar Gymoedd Gwent, gan gyfeirio at byllau glo Blaenafon, Pont-y-pŵl a Senghennydd. Mae'n rhoi darlun diddorol o gloddio yn yr oes ddiwydiannol o safbwynt anarferol a theimladwy. Mae llawer o'r delweddau a ddefnyddir yn dangos mewn ffordd rymus yr hyn a ddioddefodd yr anifeiliaid hyn.
Mae'r dudalen hon yn rhan o arddangosfa ar-lein Blaenau Gwent REACH.
Ffilm a sain | Ysgrifennu creadigol | Celf weledol
Straeon digidol | Hanes Blaenau Gwent | Ynglŷn â'r prosiect hwn
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon