Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
  • Fideo
  • 5 munud

Ffilm a sain – Blaenau Gwent REACH

Diweddarwyd Dydd Mercher, 7 Gorffennaf 2021

Mae’r ffilmiau byr hyn yn gymysgedd amrywiol o gerddoriaeth, gwaith celf, ysgrifennu creadigol a hanes llafar. Mae pob un ohonynt yn ymwneud â bywydau ym Mlaenau Gwent, o dyfu i fyny yn y 1950au i gyfyngiadau symud COVID-19 yn 2020.

Cafodd y geiriau, y gerddoriaeth a'r gelfyddyd ynddynt eu creu gan gyfranogwyr mewn amrywiaeth o weithdai creadigol a gynhaliwyd gan brosiect BG REACH yng Nghanolfan Gymunedol Aberbîg yn ystod gwanwyn 2020, a'u troi wedyn yn ffilmiau a straeon digidol gan wneuthurwyr ffilm ac aelodau o'r gymuned leol.

Archwilio:

Cynefin 2

Gan grŵp cerddoriaeth BG REACH


Cafodd y gân deimladwy hon ei chyfansoddi gan aelodau o grŵp cerddoriaeth BG REACH. Roedd y fersiwn wreiddiol yn ddarn hirach (Cynefin 1), a ysgrifennwyd ar gyfer perfformiad byw, ond ni fu hynny'n bosibl yn sgil pandemig y Coronafeirws. Er hynny, parhaodd y grŵp i gwrdd, cyfansoddi a pherfformio gyda'i gilydd ar-lein yn ystod y cyfyngiadau symud. Wrth i'r gerddoriaeth ddatblygu, recordiodd pob aelod ei ran ar wahân gan ddefnyddio 'trac clic', ac aeth hwylusydd y grŵp, Liz Lane, ati wedyn i olygu'r sain a'r ffilm a rhoi'r cyfan at ei gilydd. Mae'r cynnyrch terfynol yn gampwaith creadigol mewn cyfnod anodd.

Mae'r gair Cynefin yn cyfeirio at ymdeimlad o berthyn i le penodol a'i bobl. Mae'r ymdeimlad hwnnw'n treiddio'n glir drwy'r gân ei hun, ac mae'r geiriau'n adlewyrchu profiadau gwahanol y cerddorion o Flaenau Gwent. Mae rhai ohonynt wedi byw yno drwy gydol eu bywydau, rhai eraill wedi symud i ffwrdd ac wedi dychwelyd, ac mae rhai yn newydd i'r ardal. Ond mae pob un ohonynt yn teimlo cysylltiad agos â'u cartref yng Nghymoedd Gwent. Mae'r geiriau'n diolch am harddwch yr ardal a'i chymuned. Mae ymdeimlad dadlennol bron mewn mannau, gyda llinellau fel ‘things I could not see’ a ‘now my eyes are open’. Cafodd y lluniau ategol eu tynnu gan y grŵp, ac maent yn cyfeirio at fyw bywyd yng nghanol ysblander naturiol. Mae'r dathliad hwn o fyd natur yn fwy atgofus byth o gofio bod 'gwyrddni'r cymoedd' wedi deillio o'r dad-ddiwydiannu sydd wedi llesteirio hyfywedd economaidd y rhanbarth dros y 40 mlynedd diwethaf.

Mae Cynefin 2 yn gwneud defnydd helaeth o gerddoriaeth werin Gymraeg, yn ogystal â chyfansoddi gwreiddiol. Mae'r corws yn seiliedig ar yr hwiangerdd Gymraeg, Suo Gân, er bod y geiriau eu hunain yn newydd ac yn Saesneg. Cafodd Suo Gân ei chofnodi mewn print am y tro cyntaf ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond mae'n debyg ei bod yn llawer hŷn na hynny. Mae'r adrannau clo yn fersiwn ddiwygiedig o ran olaf y gân werin Gymraeg, Ar Lan y Môr, a gofnodwyd am y tro cyntaf yn 1937, ond sy'n dyddio'n ôl ymhell cyn hynny mewn traddodiad llafar. Er mai Blaenau Gwent yw un o'r ardaloedd lleiaf Cymraeg eu hiaith yng Nghymru, mae'r dylanwadau hyn yn adlewyrchu ymdeimlad o berthyn y perfformwyr i'w treftadaeth Gymreig, fel y mynegir drwy gerddoriaeth ac iaith draddodiadol.

Un o'r pethau mwyaf grymus am y ffilm yw gweld y cerddorion yn perfformio'r darn. Ac wrth gwrs, seren y sioe yw Lily-Evelyn fach, sy'n cyfrannu ei llais a'i ratl yn yr adran ganol.

'Growing up in Blaenau Gwent'

Pat Tovey a Jacqui Bowditch


Mae'r recordiad byr hwn yn cynnwys y ddwy chwaer, Pat Tovey a Jacqui Bowditch, yn trafod eu plentyndod yn Abertyleri yn ystod y 1950au a'r 1960au. Mae'n ein hatgoffa faint y mae bywyd wedi newid ym Mlaenau Gwent dros y 60 mlynedd diwethaf. Teulu Pat a Jacqui oedd y cyntaf ar y stryd i gael car, a'r cyntaf i gael teledu lliw. Maent hefyd yn cofio, o oedran ifanc iawn, cael mynd i chwarae heb oruchwyliaeth, ‘rolling down the mountains on cardboard for hours’. Byddai swydd dda eu tad fel peiriannydd wedi bod yn gysylltiedig â'r diwydiannau trwm, a fu'n rhan hanfodol o economi'r ardal tan y 1980au.

Dyma sgwrs agos atoch hyfryd hefyd, sy'n hel atgofion doniol am gweryla dros hen deganau a ddifrodwyd. Mae'r lluniau sy'n ategu'r recordiad yn dangos Pat a Jazqui yn blant ac yn oedolion ifanc. Wrth iddynt fyfyrio ar fywyd teuluol tuag at ddiwedd y clip, mae'r chwiorydd yn cyfeirio at newid a pharhad. Ar y naill law, maent yn cydnabod bod llai o bwys ar deulu estynedig mewn sawl rhan o gymdeithas yng Nghymru, wrth i fwy a mwy o blant symud i ffwrdd oddi wrth eu rhieni pan fyddant yn hŷn. Ond mae eu plant eu hunain (tri yr un) wedi aros yn yr ardal ac maent gyn agosed i'w cefndryd a'u cyfnitherod ag y maent i'w brodyr a'u chwiorydd. Mae'r pwys y mae Pat a Jacqui yn ei roi ar deulu, cymuned a lle yn amlwg ar ddiwedd y recordiad.

'My Ramblings'

Geiriau gan Hilary Davie,
Ffilm gan Hannah Roberts, yn cynnwys Janet Roberts


Wedi'i hysgogi gan y cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf a gyflwynwyd mewn ymateb i bandemig COVID-19, ysgrifennodd Hilary y darn hwn ar harddwch naturiol y cymoedd o amgylch Aberbîg. Yna, defnyddiodd y gwneuthurwr ffilm lleol, Hannah, waith Hilary fel ysbrydoliaeth ac ychwanegiad ar gyfer ffilm fer o'i mam, Janet, yn cerdded drwy Barc Arael Griffin, ychydig i'r gogledd o Aberbîg, ar ddiwedd gwanwyn 2020. Janet hefyd sy'n lleisio geiriau Hilary.

Mae Hilary'n crybwyll bod y byd dynol i bob pwrpas wedi stopio'n stond diolch i'r pandemig, ond bod byd natur yn parhau. Mae cynnig disgrifiadau ysgogol o'r planhigion sy'n tyfu ar hyd y llwybrau y mae'n eu cerdded yn rheolaidd. Dywed wrthym fod y mafon gwyllt y mae'n mynd heibio iddynt wedi tyfu o hadau a gludwyd gan adar o randiroedd cyfagos. Mae'n myfyrio ar y cysylltiadau rhwng pethau naturiol a phethau sydd wedi'u gwneud gan bobl yng nghymoedd glas ei chartref.

Cofeb Glofa'r Chwe Chloch yw canolbwynt gweledol ffilm Hannah. Mae'n ymddangos sawl gwaith yn ystod y ffilm, o chwe safbwynt gwahanol. Mae'r cerflun 20 metr hwn, a ddadorchuddiwyd yn 2010, yn gofeb i'r 45 o ddynion a fu farw yn nhrychineb Glofa'r Chwe Chloch yn 1960. Mae'n gofeb fawr i gost drychinebus diwydiant, y mae Hannah yn ei chyferbynnu â myfyrdodau hwyliog Hilary ar barhad byd natur. Mae'r cyferbyniad yn fwy grymus byth nawr bod diwydiant wedi cilio o Flaenau Gwent, gan adael i fyd natur lywio'r dirwedd unwaith eto.

'My OU Breakdown'

Pat Tovey


Dyma fyfyrdod rhyfeddol o onest ar brofiad BG REACH yn ystod pandemig y Coronafeirws yn 2020/21. Cafodd ei ysgrifennu gan Pat Tovey, un o aelodau blaenllaw Grŵp Cymunedol Aberbîg, a ysgogodd y prosiect ym Mlaenau Gwent ei hun.

Mae'r darn yn cofnodi'r ffordd y gwnaeth y cyfyngiadau symud fygwth tanseilio popeth yr oedd Pat ac eraill wedi'i gyflawni drwy'r prosiect, yn nhermau dysgu a hyder. Ond mae hefyd yn tynnu sylw at y rôl y gwnaeth aelodau o staff BG REACH, Suzy a Sarah, ei chwarae wrth helpu Pat a'i chyd-gyfranogwyr i gynnal y cynnydd hwn. Fodd bynnag, cymuned Pat ei hun a'i hymdeimlad o berthyn i'r ardal leol fu'r cymorth mwyaf iddi; ‘our little world, our piece of heaven’, meddai. Er hynny, mae llawer o hiwmor yma hefyd, gan gynnwys y cyfeiriad at fronnau Carol Vorderman. Mae'r ffilm wedi'i chyflymu o Pat yng Nghanolfan Gymunedol Aberbîg yn rhoi portread ysgafn o'r pryderon gwirioneddol y mae'n ysgrifennu amdanynt.

'Rainbows'

Gan gymuned Cwrt Bracty yn Aberbîg.


Cafodd y ffilm hyfryd hon ei chreu yn gyfan gwbl gan bobl sy'n byw ar un stryd yn Aberbîg. Mae'n dangos yr enfysau a grëwyd gan eu plant a'u hwyrion a'u hwyresau yn gynnar yn ystod cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf y Coronafeirws yn ystod gwanwyn 2020. Cafodd yr enfysau hyn eu gosod mewn ffenestri ledled y sir a'r tu hwnt, fel symbolau o obaith mewn cyfnod anodd.

Yn wahanol i'r darnau eraill yn yr arddangosiad hwn, nid yw ‘Rainbows’ yn myfyrio ar dreftadaeth Blaenau Gwent. Yn lle hynny, mae'n cyflwyno cyfnod eithriadol mewn hanes drwy lygaid cymuned glos yn yr ardal honno. Mae'n cofnodi hanes yn hytrach na myfyrio arno. Dangosir un enfys gyda gwleidydd pryderus yr olwg yn y cefndir. Mae un arall wedi'i hamgylchynu gan sloganau fel ‘be safe’, ‘wash your hands’ a ‘socially distance’. Mae'r cyfuniadau gweledol hyn o obaith ac ofn, diniweidrwydd a bygythiad, yn atgof byw o ddyddiau cynnar ansicr y pandemig.


BG REACH exhibition logo / Logo arddangosfa BG REACH

Mae'r dudalen hon yn rhan o arddangosfa ar-lein Blaenau Gwent REACH.

Ffilm a sain | Ysgrifennu creadigol | Celf weledol

Straeon digidol | Hanes Blaenau Gwent | Ynglŷn â'r prosiect hwn

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?