Efallai ei fod yn swnio braidd yn rhyfedd bod angen i ni ddysgu sut i ddarllen y newyddion. Wedi'r cyfan, nid yw'r iaith a gaiff ei defnyddio mewn adroddiadau newyddion yn arbennig o aneglur na thechnegol. Ond, yn yr oes sydd ohoni, gyda chymaint o sôn am ‘newyddion ffug’ a chymaint o amheuon ynglŷn â thuedd yn y cyfryngau, mae'r ffordd y caiff digwyddiadau eu cyflwyno i ni wedi tyfu'n bryder mawr i gymdeithas. Gall deall sut mae'r diwydiant newyddion yn gweithio, a myfyrio ar y ffordd rydym ni fel defnyddwyr yn rhyngweithio ag ef, fod yn ddefnyddiol iawn yn y frwydr yn erbyn dylanwad llygrol ‘newyddion ffug’.
Yn dilyn cyfres o ffilmiau byrion a grëwyd gan Y Brifysgol Agored ar y pwnc, rydym wedi ysgrifennu ychydig o gyngor a chwestiynau y gallwch eu gofyn i chi eich hun ac awgrymiadau i'w hystyried wrth geisio canfod eich ffordd drwy dirwedd y cyfryngau. Bydd yr awgrymiadau hyn yn eich helpu i feddwl yn feirniadol a dod i'ch casgliadau eich hun am y newyddion a welwch, ac yn eich helpu i wahaniaethu rhwng gwybodaeth ddibynadwy a chamwybodaeth.
1. A yw'r erthygl wedi'i bwriadu fel adroddiad ffeithiol ar y digwyddiad, neu ai darn o sylwebaeth sy'n seiliedig ar farn yr awdur ei hun ar y digwyddiadau yw hi?
Mae mwy a mwy o adroddiadau'n seiliedig ar farn y dyddiau hyn ac, er nad oes dim o'i le ar hynny yn y bôn, mae'n ddefnyddiol gallu gwahaniaethu rhwng y ddau fath. Mae adroddiadau seiliedig ar farn yn cynnwys dehongliad yr awdur ei hun o'r digwyddiadau, a all roi safbwynt penodol iawn ar y newyddion. Drwy wahaniaethu rhwng adroddiadau ffeithiol a sylwebaeth, byddwch mewn sefyllfa well i lunio eich barn eich hun ar y sefyllfa.
2. Pwy yw awdur y stori, a phwy sy'n ei chyhoeddi?
Mae dwy ran i'r cwestiwn hwn, sef yr awdur unigol a'r sefydliad newyddion cyffredinol. O ran yr awdur, efallai yr hoffech ystyried pa mor gredadwy ydyw, ac a oes ganddo gefndir cadarn ym maes newyddiaduraeth newyddion, neu ai straeon pryfoclyd sydd â'r nod o ddenu sylw yn y cyfryngau cymdeithasol a gaiff eu cyhoeddi ganddo yn bennaf. Efallai yr hoffech hyd yn oed feddwl am unrhyw ragdybiaethau sydd gennych am yr awdur, ac a ydynt yn debygol o effeithio ar y ffordd rydych yn dehongli'r erthygl.
O ran sefydliadau cyhoeddi, o bapurau newydd i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gall fod yn ddefnyddiol edrych i weld pwy sy'n eu hariannu, a beth mae'r trefniadau ariannu neu lywodraethu [link to definition] hyn yn debygol o'i olygu mewn perthynas â'u safbwynt ar y digwyddiadau dan sylw. Er enghraifft, ar Twitter, caiff trydariadau gan sefydliadau cyfryngau gwladol eu nodi felly, oherwydd cânt eu defnyddio'n aml gan y rhai sydd mewn grym yn y gwledydd hynny i wthio agenda wleidyddol benodol.
3. Darllenwch fwy na phennawd y stori.
Yn y cyfryngau cymdeithasol, bydd pobl yn aml yn darllen pennawd ac yna'n rhannu'r stori yn seiliedig ar eu hymateb iddo. Fodd bynnag, mae hyn yn beryglus am nifer o resymau. Yn gyntaf, mae'n amlwg y bydd yr erthygl ei hun yn cynnwys cyd-destun a manylion na ellir eu cyfleu mewn pennawd un frawddeg o hyd (rhaid i bennawd yn y cyfryngau cymdeithasol fod yn 80 o nodau neu lai), felly mae dibynnu ar y pennawd yn unig yn debygol o fod yn gamarweiniol. Hefyd, mae'n werth cofio nad dim ond crynhoi cynnwys yr erthygl yw diben y pennawd, ond ennyn diddordeb y darllenwyr hefyd. Felly, mae'r pennawd yn debygol o gyflwyno'r stori mewn ffordd fwy syfrdanol a chyffrous na'r erthygl ei hun. Hefyd, anaml y caiff y pennawd ei ysgrifennu gan awdur yr erthygl – fel arfer, caiff ei ysgrifennu gan olygydd copi, sy'n golygu ei fod gymaint â hynny'n bellach oddi wrth gynnwys y stori.
4. Edrychwch ar y dolenni, y cyfeiriadau a'r ffynonellau a roddir er mwyn gweld a yw'r honiadau a wneir yn yr erthygl yn wir.
Gallai dilyn y cyngor hwn olygu y bydd yn cymryd ychydig yn fwy o amser i amgyffred y newyddion, ond ni ddylai fod angen i chi chwilio'n bell iawn i ddod o hyd i'r dystiolaeth sy'n ategu'r stori newyddion ac, os bydd angen i chi chwilio'n bell, dylai hynny wneud i chi feddwl. Bydd ffynonellau newyddion da yn cynnwys dolenni yn eu herthyglau ar-lein i ddangos o ble y cawsant eu gwybodaeth. Fel yn achos pob math o wybodaeth, gall deall o ble y daeth eich helpu i benderfynu pa mor ddibynadwy yw hi. Gallwch ailddefnyddio'r pwynt cyntaf a'r ail bwynt i'ch helpu i feddwl am darddiad y ffynonellau a'u dibynadwyedd.
5. A yw'r erthygl wedi cael ei chywiro neu ei diweddar ar unrhyw adeg?
Bydd ffynonellau newyddion dilys yn ychwanegu nodyn at erthygl os cafodd ei newid ers iddi gael ei chyhoeddi gyntaf. Gall fod yn syniad da edrych i weld pryd y cafodd cywiriadau o'r fath eu gwneud mewn perthynas â'r amser a'r dyddiad cyhoeddi gwreiddiol, a hefyd er mwyn gweld pa fath o ‘gamgymeriad’ a gafodd ei gywiro. Gall hyn roi syniad i chi o'r math o ganllawiau y mae sefydliadau newyddion yn eu dilyn a'ch helpu i fod yn fwy beirniadol wrth ddarllen y newyddion yn fwy cyffredinol. Wedi'r cyfan, gall camgymeriadau ddigwydd wrth adrodd ar y newyddion, yn enwedig os mai sefyllfa fyw a all newid o un funud i'r llall sydd dan sylw. Mewn geiriau eraill, nod adroddiadau da yw bod yn wrthrychol ac, fel rhan o'r nod hwn, mae'n bwysig cyfaddef pan fydd camgymeriadau wedi cael eu gwneud a'u cywiro pan fydd gwybodaeth newydd ar gael. Ar y llaw arall, mae'n bosibl na fydd adroddiadau llai dibynadwy mor dryloyw â hyn, ac y byddant, drwy osgoi'r fath gyfrifoldeb newyddiadurol, yn cyfrannu at ledaenu camwybodaeth.
Gall y dolenni canlynol fod o ddefnydd i chi:
- Full Fact – sefydliad gwirio ffeithiau annibynnol i'r DU.
- Snopes – sefydliad gwirio ffeithiau yn UDA.
- Democracy Classroom - casgliad o adnoddau gan sefydliadau sy'n helpu pobl ifanc i gymryd rhan mewn etholiadau.
Mae’r adnodd hwn yn rhan o gasgliad Dinasyddiaeth Weithgar yng Nghymru.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan y casgliad.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon