I lawer o bobl, gall gwirfoddoli fod yn gyfle ardderchog i ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau a ddatblygwyd yn eu gwaith er lles eu cymuned neu sefydliad arall, neu i ddatblygu sgiliau newydd a gwybodaeth. Gall fod yn fodd hefyd i wneud synnwyr o brofiadau rydych efallai wedi’u cael yn eich bywyd personol a’u defnyddio er budd rhywun arall. Mae pobl eraill yn gwirfoddoli o fewn eu gweithle presennol er lles eu cydweithwyr. Gallwch gael eich ysbrydoli isod gan bum cydweithiwr y mae gan eu gwirfoddoli ffocws proffesiynol, ond sydd yn aml yn bersonol iawn.
Catherine - Gwirfoddolwr â Phwyllgor Iechyd Meddwl Cyhoeddus, Y Sefydliad Iechyd Meddwl
“Os ydych chi’n teimlo nad ydych chi’n cyflawni popeth y gallech chi ei gyflawni yn eich bywyd, chwiliwch am gyfleoedd i wirfoddoli. Oherwydd, mewn gwirionedd, efallai nad ydy’r hyn rydych chi’n ei wneud i dalu’r rhent yn ddigon i’ch bodloni; mae yna fodd arall o wneud hynny.”
Er y bu Catherine yn gweithio yn y sector iechyd meddwl yn flaenorol, y ffaith ei bod wedi colli ffrind oherwydd ei bod wedi lladd ei hun oedd wedi ei hysgogi i “wneud mwy i helpu i gyrraedd pobl nad ydyn nhw efallai’n cael mynediad at wasanaethau, ond sydd wirioneddol mewn trafferthion”. Yn y lle cyntaf, fe wnaeth gais i fod yn ymddiriedolwr ar gyfer y Sefydliad Iechyd Meddwl, ond roedd yn aflwyddiannus; yn lle hynny, gofynnodd yr elusen iddi ymuno â’u Pwyllgor Iechyd Meddwl Cyhoeddus.
Michelle - Gwirfoddolwr llais y claf
“Mae eich persbectif, eich llais, a’ch profiad yn ddilys a gwerthfawr, ac mi ddylech chi eu defnyddio.”
Mae gan Michelle gefndir proffesiynol yn gweithio yn y sector gwirfoddol, ond ei phrofiad ei hun o gael babi cynamserol sydd wedi ei harwain at gefnogi gwaith dwy elusen: Bliss, sy’n cefnogi pobl â phrofiad o enedigaeth gynamserol neu y mae eu babis yn derbyn gofal arbennig, ynghyd â Tommy’s, sy’n gwneud llawer o waith yng nghyswllt beichiogrwydd, genedigaeth gynamserol, a chamesgor.
Amo - Sylfaenydd Rhwydwaith Staff Traws y Brifysgol Agored
“Ceisiwch ganfod beth yn union y mae gwirfoddoli yn ei gynnwys cyn i chi ddiystyru eich hun ar ei gyfer – efallai y cewch chi eich synnu.”
Fe gafodd Amo’r syniad o sefydlu rhwydwaith ar gyfer cydweithwyr traws yn y Brifysgol Agored wrth orwedd yn effro yn y gwely un bore. Roedd yn gwybod bod yna bobl draws eraill yn y Brifysgol, ond nid oedd unrhyw blatfform iddyn nhw gysylltu â’i gilydd a chefnogi ei gilydd. Teimlodd hefyd, er bod yna rwydwaith LGBTQ+, nid oedd yn hawdd iawn cysylltu â phobl draws eraill.
Sarah – Cynghorydd polisi gwirfoddol, Plant yng Nghymru
“Mae gormod o bobl yn poeni am wneud pethau’n hollol berffaith, neu orfod ymrwymo llwyth o amser, ond mi allwch chi wneud i bethau weithio, ac mi fydd sefydliadau’n eich helpu. Felly gwnewch e!”
Mae gwirfoddoli’n ganolog i bwy ydy Sarah. Yn y gorffennol, bu’n ymddiriedolwr, yn gynghorydd polisi gwirfoddol i’r elusen Plant yng Nghymru, yn Aelod o’r Llynges Frenhinol Wrth Gefn, yn wirfoddolwr gyda grŵp ieuenctid yn y lluoedd arfog, yn gynghorydd cymuned, ac yn llywodraethwr ysgol. Mae rhai o’r profiadau hyn yn fwy diweddar, tra bo eraill o’r cyfnod pan oedd yn iau, hyd yn oed fel plentyn. Mae’n meddwl bod y profiadau hynny yn ystod ei blynyddoedd ffurfiannol wedi dylanwadu ar y math o unigolyn ydy hi heddiw.
Stephen – Gwirfoddolwr profedigaeth
“Rhowch gynnig arni – os na wnewch chi drio, fyddwch chi ddim yn gwybod.”
Mae Stephen yn gwirfoddoli am ryw ddwy awr yr wythnos fel gwirfoddolwr profedigaeth dros y ffôn ar gyfer elusen Cefnogaeth Mewn Galar Cruse. Bu ganddo ddiddordeb erioed mewn iechyd meddwl, ac mae ei waith yn y Brifysgol Agored yng Nghymru yn ymwneud â chefnogi iechyd meddwl myfyrwyr, ond ei brofiad personol oedd wedi’i arwain at ei waith gwirfoddol.
Mae’r adnodd hwn yn rhan o gasgliad Dinasyddiaeth Weithgar yng Nghymru.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan y casgliad.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon