Gall fod yn syndod i chi wybod y gallwch ymwneud â byd addysg hyd yn oed os nad ydych yn athro neu’n athrawes. Gallwch wneud hynny mewn sawl modd heb gael eich cyflogi mewn ysgol, coleg neu brifysgol, gan gynnwys fel llywodraethwr ysgol neu chwarae rhan yn eich cymdeithas rhieni ac athrawon. Fel arfer, does dim angen unrhyw gymwysterau arbennig ar gyfer swyddi o’r math hwn, a’r cwbl y bydd arnoch ei angen ran amlaf ydy brwdfrydedd. Ond os ydych yn gweithio o fewn y maes addysg, mae’n dal i fod yn bosib i chi wirfoddoli eich sgiliau a’ch gwybodaeth y tu hwnt i’ch gwaith bob dydd. Gallwch gael eich ysbrydoli isod gan dri chydweithiwr sy’n cyfrannu at addysg yn eu cymunedau.
Kerrie - Llywodraethwr ysgol a Chadeirydd y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon
“Mae fy ngwaith fel gwirfoddolwr yn fuddsoddiad yn fy nghymuned ac yn gyfle i fodelu’r gwerthoedd rydw i eisiau i fy mhlant gael eu trwytho ynddyn nhw.”
Mae Kerrie wedi bod yn llywodraethwr ysgol mewn ysgol gynradd ger Llanelli dros y pum mlynedd diwethaf, ac mae hi wedi cynnig ei hun yn ddiweddar ar gyfer ail dymor o bedair blynedd yn y swydd. Mae ganddi gefndir proffesiynol mewn llywodraethu, ar ôl gweithio fel y Rheolwr Llywodraethu Corfforaethol yn Heddlu Dyfed-Powys cyn ymuno â’r Brifysgol Agored yng Nghymru, pryd yr enillodd gymhwyster yn y pwnc hefyd. Roedd Kerrie yn awyddus wedyn i ddefnyddio ei sgiliau i gefnogi gwaith llywodraethu yn ysgol ei phlant.
Catharine - Aelod o Bwyllgor Addysg Dolen Cymru, a Chadeirydd llywodraethwyr ysgol
“Oherwydd fy ngwirfoddoli, mae Lesotho yn fy nghalon, ac rwy’n teimlo’n rhan o’r gymuned yno.”
Yn ogystal â gwasanaethu fel cadeirydd y corff llywodraethu yn ei hysgol gynradd leol, mae Catharine hefyd yn aelod o Bwyllgor Addysg elusen Dolen Cymru, sy’n anelu at feithrin cysylltiadau agosach rhwng Cymru a gwlad Lesotho yn Ne Affrica.
Becca - Llywodraethwr ysgol
“Beth bynnag rydych chi’n dewis ei wneud, gofalwch ei fod yn rhywbeth rydych chi’n wirioneddol frwdfrydig yn ei gylch, oherwydd mi gewch chi wedyn yr egni a’r amser i’w wneud.”
Roedd taith Becca tuag at ddod yn llywodraethwr wedi cychwyn o ganlyniad i’w gwaith trefnu cymunedol arall ger ei chartref yng Nglan-yr-afon, Caerdydd. Bu’n chwarae rhan ym Mhrosiect Cymunedol Eden, sy’n trefnu digwyddiadau o’r enw’r Cinio Mawr, ac fe aeth ati i drefnu Cinio Mawr yn ei chymuned, gan wahodd yr ysgol i gymryd rhan. Y bartneriaeth hon oedd wedi tynnu ei sylw at y sedd wag ar gyfer llywodraethwr cymunedol, ac fe’i hanogwyd i gynnig ei henw - a bu’n llwyddiannus..
Einir - Ymddiriedolwr a gwirfoddolwr Cymdeithas Rhieni ac Athrawon
“Fyddwn i fyth wedi cael yr hyder i wneud cais am fy swydd bresennol taswn i ddim wedi ymwneud â NASMA – mi roddodd yr hwb ychwanegol yna i mi.”
Cyn cael ei hannog gan ei rheolwr llinell yn ei swydd flaenorol i feddwl am wirfoddoli ar gyfer Cymdeithas Genedlaethol Cynghorwyr Ariannol Myfyrwyr (NASMA), nid oedd Einir erioed wedi meddwl amdani. Bu’n aelod o’r Gymdeithas am dros ddau ddegawd, ac roedd wedi cael budd o’i haelodaeth, ond ar ôl ennill cymaint o brofiad, roedd yn barod i rannu ei gwybodaeth ag eraill. Roedd yn ddigon ffodus bod ei chyflogwr wedi cydnabod pa mor werthfawr y gallai ymrwymiad Einir â NASMA fod, a rhoddwyd ei gefnogaeth lawn iddi.
Mae’r adnodd hwn yn rhan o gasgliad Dinasyddiaeth Weithgar yng Nghymru.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan y casgliad.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon