Gallwch fod yn weithgar yn eich cymuned mewn sawl modd, o wirfoddoli gyda sefydliad neu gorff cyhoeddus neu wneud pethau ar eich pen eich hun, neu gyda chymdogion i wneud lle’r ydych yn byw ychydig yn well i bawb. Mae cymorth ariannol i’w gael gyda rhai, ond nid bob un, o’r rolau hyn, ond maen nhw’n dal i fod angen i chi gyfrannu eich amser a’ch egni er budd eich cymuned, ar ben unrhyw waith cyflogedig arall rydych efallai’n ei wneud. Gallwch gael eich ysbrydoli isod gan bum cydweithiwr sy’n gweithio o fewn eu cymunedau ac yn eu gwasanaethu er lles pawb.
Emily - Ynad
“Po fwyaf y mae pobl o’r gymuned yn cael eu cynrychioli, gwell ydy’r penderfyniadau a wneir.”
Cyn dod yn ynad, doedd Emily erioed wedi bod yn wirfoddolwr, ond roedd yn chwilio am gyfle i wneud rhywbeth ystyrlon yn ei chymuned, yn ogystal â rhywbeth a fyddai’n her ac yn rhoi’r cyfle i ddysgu sgiliau newydd. Mewn swydd flaenorol, mynychodd sgwrs gan ynad, a llwyddodd hynny i ennyn ei diddordeb. Hyd hynny, ychydig iawn o ddealltwriaeth oedd ganddi o beth yr oedd ynadon yn ei wneud – neu hyd yn oed eu bod yn gweithio’n ddi-dâl!
Becca - trefnydd cymunedol ac ymddiriedolwr elusen
“Mae dysgu sut i ganfod tir cyffredin gyda phobl nad ydych chi o reidrwydd yn cytuno efo nhw yn werthfawr ym mhob rhan o’ch bywyd.”
Pan symudodd Becca i Lan yr Afon yng Nghaerdydd sylwodd bod llawer o sbwriel a thipio anghyfreithlon yn yr ardal, ac roedd hi eisiau gwneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Ymunodd â sesiwn hel sbwriel a drefnwyd gan Cadw Cymru’n Daclus ac, yn sgil hynny, daeth i adnabod pobl o’r un meddwl â hi yn yr ardal leol, a gyda’i gilydd, “dros beint rhyw noson”, sefydlwyd Cadw Glan yr Afon yn Daclus. Fe ddechreuon nhw drefnu eu sesiynau hel sbwriel eu hunain a gweithio gyda Chyngor Caerdydd i gael gosod rhagor o finiau, ynghyd â gweithio gydag Awdurdod Harbwr Caerdydd i fynd i'r afael â llygredd yn yr afon. Maen nhw wedi creu gardd gymunedol hefyd.
Helen - Cynghorydd Tref a Dirprwy Faer
“Mae unrhyw un yn gallu ei wneud e! Fyddwch chi ddim ar eich pen eich hun – mi fyddwch chi mewn tîm.”
Mae Helen wedi bod yn gynghorydd tref yn Llanbedr Pont Steffan dros y pum mlynedd diwethaf, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n gwasanaethu hefyd fel Dirprwy Faer ac yna Maer y dref. Yn ystod blwyddyn ddinesig 2024/25, bydd Helen unwaith eto’n cymryd mantell y Dirprwy Faer.
Ros – Cynghorydd Sir
“Mae’n fraint gallu cefnogi pobl a’u helpu i gael mynediad i’r gwasanaethau y mae eu hangen arnyn nhw.”
Mewn rôl flaenorol, bu Ros yn gweithio gyda rhaglen trechu tlodi Llywodraeth Cymru, sef Cymunedau yn Gyntaf. Y gwaith hwnnw a roddodd flas iddi ar ymgyrchu yn ei chymuned, a dysgodd ragor am waith cynghorwyr. Yn y diwedd, flynyddoedd lawer yn ddiweddarach, penderfynodd gynnig ei hun fel ymgeisydd, a llwyddodd i gael ei hethol i gynrychioli ward Porth ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn 2022.
Elyn – Cynghorydd Sir
“Mae cymaint o’r hyn sy’n cael ei wneud yn ein cymdeithas yn dibynnu ar amser gwirfoddolwyr - fydden ni’n methu gwneud dim hebddyn nhw!”
Pan gafodd ei hethol gyntaf i gynrychioli ward Ystrad ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, hi oedd y fenyw ieuengaf ar y cyngor, ac yn un o’r tri chynghorydd ieuengaf ohonyn nhw i gyd. “Rwy’n meddwl fod y Cyngor wedi cael tipyn o sioc cael menyw o dan 30 oed sy’n siarad Cymraeg, a chanddi farn a ddim yn ofni ei rhannu!”, meddai.
Mae’r adnodd hwn yn rhan o gasgliad Dinasyddiaeth Weithgar yng Nghymru.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan y casgliad.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon